Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwe, 16 Tac 07 16:48:00
Mae Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog dros Dreftadaeth, wedi cyhoeddi bod Mr Dafydd Wigley a Mr Arwel Ellis Owen wedi'u penodi'n Llywydd ac yn Is-Lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd amodau eu penodiad yn dechrau ar 1 Rhagfyr 2007 ac yn para am 4 blynedd.
Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog dros Dreftadaeth: "Rwy'n falch iawn o gael penodi dau ffigur mor adnabyddus yng Nghymru i swyddi Llywydd ac Is-Lywydd ein Llyfrgell Genedlaethol. Mae profiad helaeth gan y ddau yn sgil eu gyrfaoedd a fydd yn ddefnyddiol yn y rolau hyn, ac rwy'n siwr y byddan nhw’n cyfrannu llawer i'r llyfrgell wrth iddi ddechrau ar ail ganrif ei bodolaeth."
Dywedodd Dafydd Wigley: "Mae'n anrhydedd fawr cael bod yn Llywydd un o sefydliadau pwysicaf Cymru, ac yn enwedig cael olynu Dr R Brinley Jones, a roddodd wasanaeth mor wych. Rwy'n edrych ymlaen at gael gweithio gyda'r staff i hyrwyddo ei chenhadaeth eithriadol bwysig yn ystod cyfnod o ddatblygiadau cyffrous."
Dywedodd Arwel Ellis Owen: "Rwy wrth fy modd bod gen i'r cyfle i weithio gyda Bwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddatblygu strategaeth gynaliadwy a hirdymor i ddyfodol sefydliad sydd, yn ddi-os, yn un o drysorau pennaf y genedl."
Dywedodd Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru: "Mae'n bleser mawr cael croesawu'r bobl hyn a benodwyd i'r swyddi allweddol hyn. Rydyn ni'n edrych ymlaen at gael cydweithredu â nhw i hyrwyddo buddiannau'r Llyfrgell a'i gwasanaethau, er lles Cymru a'i phobl."
Mr Dafydd Wigley:
Yn Llywydd Anrhydeddus Plaid Cymru a Chadeirydd Bwrdd Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor, mae gan Dafydd Wigley gysylltiad hir â gwleidyddiaeth a diwydiant yng Nghymru ers y 1970au. Mae wedi bod yn gysylltiedig â gwahanol sefydliadau, gan gynnwys bod yn Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Cymru (2003-2006), Cadeirydd Pwyllgor Archwilio S4C (2003-2006), Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru (1999-2003), Aelod Seneddol dros Gaernarfon (1974-2001), a Rheolwr Ariannol Hoover Ltd (1971-1974).
Mae gan Mr Wigley brofiad amrywiol o weithio gyda sefydliadau a grwpiau anabledd, gwirfoddol a diwylliannol, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Kyffin Williams, Amgueddfa Segontium, Tŷ Gobaith a Mencap Cymru. Bu'n gysylltiedig hefyd â gwahanol weithgorau a phwyllgorau gan gynnwys Archif Wleidyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005.
Mr Arwel Ellis Owen:
Mae Arwel Ellis Owen yn gyfarwyddwr 'Cyfathrebu Cambrensis', cwmni sy'n darparu gwasanaethau ymgynghori cyhoeddus, hyfforddi, trefnu digwyddiadau, a chynhyrchu corfforaethol a darlledu.
Mae Mr Owen yn Gymrawd 'Guardian' yng Ngholeg Nuffield, Rhydychen, mae’n Gymrawd Churchill, ac yn Gymrawd yn ei hen goleg yn Aberystwyth. Bu'n Bennaeth Rhaglenni BBC Gogledd Iwerddon, yn gynhyrchydd Panorama ac yn Olygydd Newyddion a Materion Cyfoes i BBC Cymru. Mae'n hyfforddi newyddiadurwyr ledled y byd, yn ogystal â chynnal cyrsiau cyfryngau ar gyfer swyddogion gweithredol corfforaethol yn rhyngwladol, Llywodraethau a chyrff cyhoeddus eraill.
Gwybodaeth Bellach:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 sij@llgc.org.uk