Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Diwrnod Agored – 26 Ionawr

Mer, 09 Ion 08 15:24:00

Cynhelir y digwyddiadau ar ddydd Sadwrn 26 Ionawr ac mae croeso cynnes i deuluoedd a phlant. Dyma grynodeb o ddigwyddiadau’r diwrnod:


 


Cyflwyniadau a theithiau ar gadwraeth ffilm a chadwraeth casgliadau yn y cartref.


 


Nigel Jenkins, un o Olygyddion The Welsh Academy’s Encyclopeadia of Wales yn trafod cynnwys a hanes ysgrifennu’r gyfrol bwysig a difyr a lansir ar 1 Chwefror.


 


Gweithgareddau i blant rhwng 11.00yb - 1.00yp a 2.00yp - 4.00yp gydag Artist Preswyl newydd y Llyfrgell, Blue MacAskill (digwyddiad yn Saesneg).


 


Lansiadau 3 llyfr:


‘Images of Wales: Seals of The National Library of Wales’ gan David H Williams


‘Y Ddinas ar y Bryn – Y Llyfrgell Genedlaethol mewn Lluniau’ gan Dr Rhidian Griffiths


‘The Day God Met Father’ gan Ieuan M Pugh


 


Agoriad swyddogol arddangosfa ffotograffau ‘The Valleys’ gan Anthony Stokes.


 


Sgwrs Oriel gan Peter Lord am ei arddangosfa ‘Winifred Coombe Tennant: Bywyd trwy Gelf’.


 


Bydd y crefftwraig ifanc, Mari Eluned, yn arddangos ei thlysau sydd wedi eu gwneud o lechi Cymreig.


 


Gweler y rhaglen lawn.


 


Cofiwch hefyd fod nifer o’r cyhoeddiadau ar werth yn Siop y Llyfrgell, neu ar y siop arlein.


 


Mae’r digwyddiadau i gyd am ddim ond dim ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd i’r cyflwyniadau cadwraeth a’r sgwrs oriel. Cofiwch archebu’ch tocyn mewn da bryd felly.


 


I archebu tocyn ffoniwch 01970 632 548 neu gallwch archebu arlein.


 


 


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012