Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwe, 11 Ion 08 12:42:00
Mae arddangosfa Anthony Stokes yn cynnwys 100 o ffotograffau lliw a dynnwyd dros y 5 mlynedd ddiwethaf. Cyfyngir y lluniau i’r cymoedd rhwng yr Ebwy a’r Nedd ac o fewn ffiniau Ffordd Blaenau’r Cymoedd a’r M4.
Darlunnir y Cymoedd fel rheol, mewn gwahanol fathau o lwyd digalon, ond mae ffotograffau Anthony Stokes yn dangos ochr arall mwy lliwgar lle mae hanes, tirwedd a threfwedd y Cymoedd yn wahanol haenau o adnewyddu ac addasu dros gyfnod o ddegawdau.
Esbonia Anthony Stokes mai 'dim ond syniadau o chwaeth gonfensiynol a rhagfarn all beidio gweld rhyfeddod y Cymoedd.’
Cytuna’r llenor, Iain Sinclair, ag ef; ‘edrychwch yn agosach. Gallwch ddarganfod hudoliaeth ddi-hid o ffws gwewyr meddwl a statws metropolitan ac yn ei le agwedd fwy hamddenol; tirwedd ddiamser heb ei orffen, mewn newid, yn gofiannau i gyn diwydiannau - gwario arian newydd ar bethau newydd. Mae llethrau’r bryniau yn cuddio hen glwyfau.’
Magwyd mam Anthony Stokes ym Maglan ac Abercannaid, a’i dad ym Mhen-y-bont. Magwyd ef yng Nghaerloyw (Gloucester), er iddo fod yn ymwelydd cyson â Merthyr Tudful a Phen-y-bont yn ei ddyddiau cynnar. Ag yntau bellach yn 61 oed, treuliodd mwyafrif ei yrfa yn gweithio yn Llundain fel curadur arddangosfeydd gyda diddordeb arbennig mewn celf gyfoes, gan symud i fyw i Gwmogwr 5 mlynedd yn ôl.
Sbardunwyd yr arddangosfa gan Amgueddfa Cwm Cynon yn Aberdâr gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a dyna lle cafodd ei lansio yng Ngwanwyn 2007. Ers hynny, mae hefyd wedi arddangos yn Oriel y Bont, Prifysgol Morgannwg ym Mhontypridd dros yr haf a Neuadd Dewi Sant, Caerdydd yn yr hydref. Cynhelir yr arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol rhwng 12 Ionawr a 5 Ebrill 2008.
Agorir yr arddangosfa'n swyddogol ar Ddiwrnod Agored y Llyfrgell ar ddydd Sadwrn 26 Ionawr.
Cyhoeddir llyfr i gyd-fynd â’r arddangosfa, The Valleys, gan wasg Seren. Mae’r llyfr 168 tudalen yn ganllaw i’r arddangosfa ac yn cynnwys dros 100 o luniau a thestun gan Iain Sinclair a fagwyd ym Maesteg ond sydd wedi byw a gweithio yn Llundain fel ysgrifennwr a bardd ers nifer o flynyddoedd.
Am wybodaeth bellach:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 sij@llgc.org.uk
Gellir prynu llyfr The Valleys o Siop y Llyfrgell neu o'n siop arlein