Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Llu, 04 Chw 08 10:40:00
Caiff disgyblion ysgol uwchradd Penglais yn Aberystwyth a fu’n cynorthwyo i gynhyrchu llyfr testun ar Cymru a Ryfel Cartref Sbaen, y cyfle i weld eu gwaith ar waith yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Chwefror 20.
Mae eu llyfr yn rhan o arddangosfa Breuddwydwyr Doeth a Ffôl sydd wedi teithio ar draws Cymru. Rhoddir yr arddangosfa at ei gilydd gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru a’i gefnogi gan Gronfa Treftadaeth y Loteri. Ceir gweithdai yn yr arddangosfa dan oruchwiliaeth trefnydd yr arddangosfa, yr hanesydd, Phil Cope.
Bydd yr arddangosfa a’r gweithdai’n canolbwyntio ar gyfraniad y Cymry a aeth i ymladd yn Sbaen. Bydd yn cofnodi peth o’u hanesion, ymgyrchoedd codi arian a’r lloches a gynnigwyd i blant amddifad o Wlad y Basg. Bydd yn ceisio esbonio hefyd pan fod y gwrthdaro, ac ymateb y Cymry iddo, yn rhan bwysig o’n hanes.
Roedd y 25 disgybl o Ysgol Penglais yn gyfrifol am ddylunio’r llyfr testun sy’n cydfynd â’r arddangosfa ac sy’n cael ei ddefnyddio gan ysgolion ar hyd a lled Cymru. Penglais fydd y cyntaf mewn cyfres o ysgolion fydd yn elwa o weithdai herfeiddiol a rhyngweithiol a drefnir yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Seiliwyd yr holl brosiect ar ymatebion gan bobl ifanc o bob rhan o Gymru. Dylunwyd yr arddangosfa ei hun gan bobl ifanc o Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas yn Abertawe tra i blant Ysgol Cynlais yn Ystradgynlais greu’r DVD sy’n cydfynd â’r prosiect.
Dywed Phil Cope; ‘Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i ddod nol i Aberystwyth i weithio gyda'r bobl ifanc wnaeth greu y deunyddiau yn y lle cyntaf. Rwy hefyd yn ddiolchgar iawn am yr ymateb wrth ysgolion, ac yn falch fod diddordeb gan bobl o hyd mewn materion pwysig fel llywodraeth, rhyfel a brwydro'n erbyn ffasgaeth.’
Ychwanegodd Owen Llywelyn o uned Addysg y Llyfrgell; ‘Mae hanes cyfraniad y Cymry i Ryfel Cartref Sbaen yn rhan arwrol o'n hanes fel cenedl. O'r capten llong Potato Jones wnaeth gario bwyd i bobl Sbaen drwy'r blocad, i'r milwyr wnaeth ymladd yn Sbaen, a'r bobl fu'n casglu arian a chynnig lloches i blant amddifad o Sbaen.’
Hafan, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 9:45am, Dydd Mercher Chwefror 20
Breuddwydwyr Doeth a Ffôl
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Chwefror 13 – Mawrth 28, 2008
Dolenni:
Gwybodaeth Bellach:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 sij@llgc.org.uk
Owen Llywelyn, Swyddfa Addysg LlGC: 01970 632 528