Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Iau, 07 Chw 08 14:27:00

Gyda Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig nawr ar werth mewn siopau llyfrau ledled Cymru, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd wedi croesawu'r llyfr i’w silffoedd wrth i’r gyfrol ymuno â llyfrau, mapiau, archifau a lluniau yn ei gartref yn Aberystwyth. Mae prosiect deng mlynedd yr Academi wedi ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru a’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy grant Loteri sylweddol.
Dywedodd y Llyfrgellydd Andrew Green, “Mae’n bleser gen i groesawu'r Gwyddoniadur i’r Llyfrgell. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i gasgliad mwyaf y byd o weithiau am Gymru a'r cenhedloedd Celtaidd eraill ac yn ffynhonnell am wybodaeth ar gyfer nifer o’r cofnodau yn y Gwyddoniadur. Mae’r cyhoeddiad hwn yn ychwanegiad gwych i’n recordiau.”
Dywedodd Marc Clement, Is-ganghellor a Phrif Weithredwr Prifysgol Cymru, “Rwy’n falch iawn cael cyflwyno Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r Llyfrgell yn sefydliad mawr ac yn gartref perffaith i’r cofnod yma o Gymru, ei gorffennol a’i phresennol. Mae hwn yn gyfle perffaith i ymwelwyr weld a darganfod dros eu hunain y ffeithiau diddorol sy’n gwneud y cyhoeddiad hwn.”
Mae’r cyhoeddiad wedi profi i fod yn llwyddiant yn barod gyda chopi yn cael ei werthu bob dwy funud yn siop lyfrau mwyaf Cymru, Borders yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn a gyda 5,000 o gopïau yn barod wedi cael eu gwerthu drwy archebion o flaen llaw, Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig yn bendant yw’r llenyddiaeth i’w gael eleni!
Mae Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig a The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales ar werth am £65 yr un. Mae’r ddau gyhoeddiad yn weithiau diffiniol a chynhwysfawr a gellir dadlau mai hwn yw un o’r llyfrau mwyaf gwerthfawr i’w gyhoeddi yn hanes Cymru. Mae'r prosiect wedi golygu ymchwilio, ysgrifennu a golygu dwys gan bedwar o academyddion mwyaf blaenllaw Cymru, Dr John Davies, Menna Baines, Nigel Jenkins a Peredur Lynch.
