Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwe, 15 Chw 08 12:40:00
Rhwng 16 a 23 Chwefror bydd Andrew Green, prif Lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn mynychu cyfres o gyfarfodydd yn Washington DC ac Efrog Newydd.
Uchafbwynt ei ymweliad bydd traddodi darlith ar ddydd Gwener 22 Chwefror yn yr Arsenal yn Central Park, Efrog Newydd ar ‘Drysorau Cymru’. Y cyflwyniad aml-gyfrwng yma fydd un o'r cyflwyniadau agoriadol cyntaf yn nigwyddiad newydd, ‘Wales in New York’. Mae dros 180 person eisoes wedi cofrestri i ddod a bydd Comisiynydd y Parciau yn cyflwyno sgrôl arbennig i’r Llyfrgell fel rhan o’r dathliadau.
Cyn ymweld ag Efrog Newydd, bydd y Llyfrgellydd yn ymweld â Llyfrgell y Gyngress (Library of Congress) yn Washington DC - llyfrgell sydd â pherthynas agos â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Tra’n Washington bydd hefyd yn ymweld â’r Smithsonian Institution i drafod rhan y Llyfrgell yn nathliadau hynod bwysig a gynhelir ym Mehefin 2009 pan gaiff Cymru’r fraint o fod yn un o’r ‘featured nations’ yng ngŵyl enwog flynyddol y ‘Smithsonian Folklife Festival’. Bydd y digwyddiad yma yn ffordd unwaith mewn oes i ddal sylw arweinwyr yr Unol Daleithiau a phobl gyffredin America a hyrwyddo Cymru - ei heconomi, hanes a diwylliant.
‘Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru nid yn unig yn sefydliad pwysig yng Nghymru ond yn rhan o rwydwaith fyd-eang o lyfrgelloedd cenedlaethol. Bydd ein hymweliad â’r Unol Daleithiau yn fodd o godi proffeil a statws y Llyfrgell ond yn bwysicach diwylliant a hunaniaeth Cymru. Mae’n rhan o’n cennad i rhwydwaith Gymreig fyd-eang,’ meddai Andrew Green.
Gwybodaeth Bellach a Chyfweliadau:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: + 44 (0) 1970 632 902 sij@llgc.org.uk