Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Blue MacAskill – artist preswyl newydd

Maw, 11 Maw 08 09:52:00

 


Magwyd Blue MacAskill yng nghyffiniau Llandrindod ym Mhowys. Cafodd ei hyfforddi yn Ysgol Gelf Ruskin yn Rhydychen, a graddiodd yn 2004 o Ysgol Gelf Wimbledon gyda Gradd Meistr yn y Celfyddydau Cain. Yn 2004 enillodd wobr AHRB i astudio yn Wimbledon ac mae’n gweithio gyda gosodiadau, ffilm a chelf cyfryngau cymysg.


"Rydw i mor hapus i fod yn Artist Preswyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer 2008. Mae fy nghysylltiad â’r Llyfrgell yn estyn yn ôl yn bell gan mai fy hen ewythr, Dr E. A. Lewis, oedd athro cyntaf Hanes Cymru yn Aberystwyth ac roedd yn gefnogol iawn i’r Llyfrgell yn nechrau’r 20fed ganrif; rwy’n bwriadu mynd i chwilio am ei waith, bydd hynny’n fan cychwyn i mi," meddai Blue.


Mae Blue wedi dangos ffilmiau ac arddangos ledled y DU yn ogystal ag yn Ne Affrica, Sweden a Phortiwgal. Fe’i pleidleisiwyd y gwneuthurwr ffilm ifanc mwyaf addawol yng Ngwyl Ffilmiau Bae Abertawe ac yn ddiweddar bu’n arddangos fel Artist Preswyl yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Dangoswyd y gwaith a ddaeth o’r prosiect hwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe yn 2006.


Blue MacAskill - artist preswyl newydd


‘Rydw i wir yn edrych ymlaen at gael rhoi fy holl brofiad ar waith a dysgu am y casgliadau enfawr yma yn y Llyfrgell. Yn ystod fy nghyfnod yma rwy’n gobeithio ymchwilio i’r archifau a dod â gweithiau llai adnabyddus a heb eu darganfod i olau dydd, a hynny er mwyn i’r ysgolion sy’n rhan o’r prosiect fedru dysgu am gasgliadau’r Llyfrgell mewn ffordd wreiddiol ac ysbrydoledig.’


Mae Owen Llywelyn o Uned Addysg y Llyfrgell Genedlaethol yn edrych ymlaen at gydweithio â Blue. “Nod y prosiect yw bod yn bont i’r berthynas rhwng y Llyfrgell ac ysgolion a phobl ifanc ledled Cymru. Bydd Blue yn gweithio â phedair ysgol yn ystod y cyfnod preswyl hwn gan gynnwys ysgolion cynradd Tan y Castell a Nantgaredig, Ysgol Uwchradd Llanidloes ac Ysgol Uwchradd Bro Ddyfi.’


Gallwch gael gwybod y diweddara am Blue, a gwaith y disgyblion, drwy fynd i weld ei dyddiadur ar-lein yn www.bluemacaskill.com.


 


Am Ragor o Wybodaeth:


 

 


Cefndir Teulu Blue


Ganwyd Blue yng Nglasgow, a daw ochr Albanaidd ei theulu o Ucheldiroedd yr Alban a’i theulu Cymreig o’r ffin rhwng Maldwyn a Maesyfed. Mae’r cyfuniad Celtaidd hwn wastad wedi bod yn bwysig iawn iddi, o safbwynt yr hyn mae wedi’i etifeddu’n bersonol yn ogystal ag ysbrydoliaeth ac uchelgais proffesiynol.

Artist hefyd yw ei thad, Duncan MacAskill, ac mae ef yn arlunydd yn Llundain, ac mae ei mam Harriet Cruickshank, yn rhedeg ei hasiantaeth ei hun yn Llundain gan gynrychioli cleientiaid sy’n gweithio yn y byd theatr, ffilm a theledu. Maent wedi bod yn esiampl wych iddi, ond ysbrydoliaeth bwysig yn ei bywyd ifanc oedd ei thaid a nain, gan iddi dreulio llawer o amser gyda nhw pan oedd yn ifanc, ac mae adrodd straeon ac atgofion yn gyfryngau pwerus iawn wrth wneud gwaith bywgraffyddol adfyfyriol.


‘Cafodd fy nain, Curigwen Lewis (wedi’i henwi ar ôl sant Curig), ei geni yn Llangurig yn 1905, hi oedd yr ieuengaf o 5 gyda 3 hanner brawd a chwaer, felly roedd o’n dŷ prysur. Bu farw ei thad yn fuan ar ôl iddi gael ei geni, ac roedd yr ysfa i helpu ei theulu wedi’i hysbrydoli i fynd yn actores yn Llundain, ac astudiodd yn RADA pan oedd hi ond yn 16 mlwydd oed.  Arweiniodd ysbryd a dawn Curigwen at yrfa gynnar yn uchelfannau enwogrwydd wrth iddi serennu yn yr Old Vic gyda Lawrence Olivier a Ralph Richardson yng nghynhyrchiad 1938 o Othello, a aeth wedyn ar daith fyd-eang. Seren ifanc o Gymru oedd hi. Bryd hynny, roedd Tyrone Guthrie (1900-1971) yn gyfarwyddwr preswyl yn yr Old Vic a daeth ei ddau gynhyrchiad, Hamlet (1937) ac Othello (1938), yn enwog am eu dehongliadau Freudaidd, gyda Laurence Olivier yn chwarae’r brif ran yn y ddau gynhyrchiad. Yn ystod y cyfnod hwn y cyfarfu fy nhaid a nain – roedd Andrew Cruickshank yn y cast, ac fe ddaliodd sylw Curigwen. Roedd hi’n llawer enwocach na Grandpa, ond ar ôl iddynt briodi yn 1939, cyn i Grandpa fynd ffwrdd i’r rhyfel, roedd hi wedi rhoi’r gorau i actio yn llwyr bron â bod. Fe’u priodwyd gan ei brawd hynaf, ficer plwyf Evan Coyd, Ivor Lewis. Y wraig wadd oedd ei mam Martha Elizabeth Lewis.


Wedyn cafodd y ferch a aeth o gefn gwlad Cymru i uchelderau enwogrwydd ac a gâi ei galw bob amser gan George Bernard Shaw yn 'the girl with the unpronounceable name', ei gadael ar ôl i fagu ei thri phlentyn, Martha-Ann (Actores ac Awdures) Harriet (fy mam, Asiant a Chynhyrchydd) ac Andrew John (Economegydd a Bardd). Gallwn ond gobeithio y byddai’n falch ohonom, mae’n sicr yn etifeddiaeth i fyw iddi.


Codi a chodi fu hanes gyrfa Grandpa wrth gwrs, ac mae’n fwyaf enwog am ei rôl fel Dr Angus Cameron yn Dr Findlay's Casebook A J Cronin, sef cyfres deledu y BBC a redai o 1959 hyd at 1971. Yn y 1960au roedd yn un o’r cyfresi mwyaf poblogaidd ar deledu Prydain. Roedd Grandpa i ffwrdd yn ffilmio yn aml, a gweithiai yn y theatr hyd at ei farwolaeth yn 1988, ond roedd yn ddyn neilltuol. Roedd ei deulu yn hanfodol, iddo ef. Yr ochr yr ydym ni’n ei adnabod fwyaf ohono yw o’r sgyrsiau gyda fy nhad ynghylch crefydd ac athroniaeth, pynciau yr ysgrifennodd ac y cyhoeddodd fy nhaid yn doreithiog arnynt. Cadwai fy nhaid a fy nain eu bywydau cyhoeddus a’u bywydau preifat ar wahân yn llwyr, gwrthododd Granny This is your Life i Grandpa tua 5 neu 6 gwaith. Trueni, achos roedd fy mrawd a fy chwaer a finnau eisiau mynd ar y teledu i siarad amdano.  Felly, daeth enwogrwydd Granny rhwng 1925 ac 1940 ac un Grandpa ar ôl hynny hyd nes 1988. Dim ond taid a nain gwych i mi oedden nhw. Mae’r myth a’r ffantasi o gwmpas eu gyrfaoedd wedi dylanwadu ar fy ngwaith cynnar fel artist gyda ffilm a ffotograffiaeth. Mae’r hyn sydd o’n cwmpas a theulu yn atyniad parhaus mewn gwaith celf, neu’n sicr yn fan cychwyn.’

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012