Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Iau, 20 Maw 08 09:38:00

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth am ddarganfod os oeddech chi yn un o brotestiadau mwyaf hanesyddol Cymru – protest cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Bont Trefechan yn Aberystwyth yn 1963.
Ceir llun anferth o’r brotest yn arddangosfa ddiweddaraf y Llyfrgell, Protest! Mae’r arddangosfa’n rhoi cip olwg ar hanes protestiadau gwleidyddol Cymru o gyfnod Merched Beca yn yr 1840au, y Suffragettes ar ddechrau’r 20fed ganrif hyd at ymgyrchwyr iaith yr 1960au. Agorwyd yr arddangosfa ym mis Chwefror a bydd yn rhedeg am flwyddyn gron.
Hoffai’r Llyfrgell wybod pwy oedd y bobl yn y llun – y protestwyr a’r trigolion lleol oedd yn digwydd bod yn bresennol. Pawb. Os oeddech chi yno – beth yw eich atgofion o’r diwrnod? Hoffai Llyfrgell Genedlaethol Cymru glywed wrthych chi.
Tynnwyd y llun yn Chwefror 1963– yn ystod gaeaf rhewllyd y flwyddyn honno. Sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ym mis Awst 1962, mewn ymateb i ddarlith radio enwog Saunders Lewis, Tynged yr Iaith a ddarlledwyd ar 13 Chwefror 1962 lle amlinellodd yr argyfwng a oedd yn wynebu'r iaith Gymraeg gan alw ar siaradwyr Cymraeg i fabwysiadu "dulliau chwildro" o blaid yr iaith.
Yn ystod y brotest eisteddodd tua 40 o aelodau a chefnogwyr y Gymdeithas yng nghanol y ffordd ar bont Trefechan am hanner awr. Llwyddwyd i rwystro’r traffig rhag croesi’r bont i mewn i Aberystwyth a bu’n rhaid galw’r heddlu. Bwriad y protest oedd i’r protestwyr gael eu harestio er mwyn mynnu gwŷs a gwrandawiad Cymraeg yn y llys, er mwyn dangos diffyg statws i’r Gymraeg. Cafwyd ymateb chwyrn gan rai aelodau o’r cyhoedd. Credai'r protestwyr hefyd y byddai'r weithred yn denu sylw'r wasg ac yn rhoi pwnc diffyg statws y Gymraeg ar yr agenda gyhoeddus. Dylanwadwyd ar y protestwyr iaith gan y protestwyr hawliau sifil yn America. Dyma oedd dechrau ymgyrchoedd annifudd-dod sifil Cymdeithas yr Iaith a arweiniodd at Ddeddf Iaith Gymraeg yn 1967 ac yna sefydlu S4C yn 1982.
Os oeddech chi yn y brotest neu yn y dorf, neu os ydych yn adnabod rhai oedd, rhowch wybod i Medi Jones gan roi pwt o atgof am y digwyddiad a’ch ymateb chi iddo.
Protest!
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
16 Chwefror 2008 – 14 Chwefror 2009
Mynediad am ddim, Siop a Bwyty Pen Dinas ar agor i ymwelwyr
Am Wybodaeth Bellach:
Medi Jones, Swyddog Hyrwyddo LlGC: 01970 632 534 lmj@llgc.org.uk
Dolen:
Arddangosfa Arlein LlGC: Ymgyrchu!