Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Llu, 01 Chw 10 15:50:00
Bellach gall dilynwyr y Llyfrgell ar draws y byd ddilyn ei hynt a’i helynt ar Twitter. Gallwch ddilyn y Llyfrgell yn y Gymraeg /llgcymru neu yn Saesneg /nlwales.
Fel rhan o strategaeth y we cyffrous y Llyfrgell, gellir bellach ymdrin â’r Llyfrgell ar nifer o safleoedd Gwe 2.0. Gellir gweld clipiau fideo o ddigwyddiadau yn y Llyfrgell ar YouTube, gadael sylwadau ar ffotograffau o gasgliadau’r Llyfrgell ar Flickr Commons, neu ddod yn ffrind i’r Llyfrgell ar Facebook. Wrth ddefnyddio’r safleoedd gwe 2.0 yma mae’r Llyfrgell yn mawr obeithio y byddwch chi’n cymryd ennyd i sgwrsio â hi. Rydym yn awyddus iawn i glywed barn ein defnyddwyr a’u syniadau am ddigwyddiadau a gwasanaethau o fewn y Llyfrgell.
Felly ymunwch yn yr hwyl, dilynwch y Llyfrgell ar Twitter i glywed y clecs diweddaraf, ac ambell i ecscliwsif ar hyd y ffordd, byddwn yn falch o’ch gweld chi.