Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Llyfr Cyfreithiau Hywel Dda yn y Gymraeg

Iau, 10 Chw 11 14:29:00

Mae’r pwnc o gyfreithiau i Gymru yn y newyddion ar hyn o’r bryd yn sgil y refferendwm ar y pwnc ar 3 Mawrth. Ond nid rhywbeth newydd yw ymwneud Cymru â chyfreithiau. Ceir sawl copi o gyfreithiau’r Cymry, Cyfraith Hywel Dda, yn y Llyfrgell ond mae un arbennig o ddiddorol newydd ei ddigido a’i rhoi ar-lein.

Cyfreithiau Hywel Dda yw un o dlysau gwareiddiad Cymru sy’n dyst i gymdeithas ddatblygedig a llythrennog yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol cynnar. Efallai bod delweddau llawysgrif Peniarth 28 o gyfreithiau Hywel Dda yn fwy adnabyddus, ond mae llawysgrif NLW 20143A hefyd yn cynnwys delweddau diddorol. Ond yn wahanol i Beniarth 28, mae’r fersiwn hon o’r cyfreithiau yn y Gymraeg ac nid Lladin a gan hynny mae’n agor y drws i ni ar gyfoeth o dermau a chysyniadau cyfreithiol yn yr iaith Gymraeg.

Mae Llawysgrif NLW 20143A yn dyddio o ganol y 14eg ganrif, ac yn ôl Daniel Huws, fe’i hysgrifennwyd mewn canolfan eglwysig yn ne Cymru. 

Mae’n cynnwys nifer o ddarluniau diddorol megis draig ddeubennog, môr-forwyn a phob math o anifeiliaid. Mae’r ffaith ei bod yn cynnwys darluniau yn anghyffredin iawn i lawysgrif o Gyfreithiau Hywel Dda a ysgrifennwyd yn y Gymraeg. Golyga hyn, yn fwy na thebyg, bod lluniwr Llawysgrif NLW 20143A wedi cael ei gomisiynu i baratoi’r copi arbennig hwn o gyfreithiau Cymreig i'w gyflwyno i berson pwysig iawn. 
  
Er i Hywel Dda, Brenin Cymru farw yn 950, nid oes un o'r llawysgrifau cyfreithiol a enwyd ar ei ôl wedi goroesi yn gynharach nag ail chwarter y 13eg ganrif. Bychan o ran maint yw'r mwyafrif o'r llawysgrifau gan gynnwys Llawysgrif NLW 20143A  (166 x 131 mm.). Cawsant eu cynllunio mae'n debyg yn llyfrau poced i'w cludo hwnt ac yma gan gyfreithwyr, yn hytrach na chael eu cadw ar silffoedd llyfrgelloedd. 

Ceir nifer o ddarluniau diddorol yn y llawysgrif, nifer ohonynt yn grefyddol, yn ogystal â llythrennau a phrif lythrennau addurnedig yn defnyddio'r lliwiau coch, glas a gwyrddlas. 

‘Un o nodweddion mwyaf trawiadol y llawysgrif yw’r un o’r delweddau o Grist ar Groes hynafol iawn yr olwg - delwedd go anghyffredin i lyfr cyfreithiol. Mae’r mynach a drawsgrifiodd y testun hefyd wedi cyfuno elfennau seciwlar a defosiynol i’w waith ‘addurnedig’ sydd heddiw yn ei wneud yn un o’n llawysgrifau canoloesol mwyaf diddorol,’ medd Dr Maredudd ap Huw, Llyfrgellydd Llawysgrifau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.


Dolenni:

Llawysgrif NLW 20143A

Llawysgrif NLW Peniarth 28 

Gwybodaeth Bellach:

Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902 post@llgc.org.uk 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012