Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwe, 25 Chw 11 10:33:00
Dewch draw i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar 1 Mawrth i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Ymysg y gweithgareddau ceir:
10.00 a.m. - 12.30 p.m. Sesiwn Sganio ‘Casgliad y Werin Cymru’
Casgliad y Werin Cymru yw’r lle i ddarganfod a dysgu, cyfrannu'ch deunydd eich hun a rhannu hanes eich Cymru chi gyda’r byd.
Hoffem eich deunydd 2D (h.y. ffotograffau, llythyrau ac ati) sy'n ymwneud â Dydd Gŵyl Dewi; efallai llun ohonoch mewn gwisg Gymreig, eisteddfod ysgol neu lun o dwmpath dawns dydd Gŵyl Dewi. Fe fyddwn yn eu sganio ac yn eu hychwanegu i wefan Casgliad y Werin Cymru.
12.30 – 1.30 p.m. Nest Jenkins yn canu’r delyn yn Cafe Pen Dinas
Ymlaciwch i gerddoriaeth draddodiadol Gymreig yn Café Pen Dinas wrth fwynhau cawl cennin a bara brith.
Bydd hefyd gostyngiad 10% oddi ar nifer o eitemau yn y Siop. Felly, galwch draw am fargen!
Baner Dewi
Bydd i’r rhai craff ohonoch sylwi wrth yrru i fyny rhodfa’r Llyfrgell ar faner anghyfarwydd yn chwifio o dô’r Llyfrgell ar y diwrnod arbennig hwn. Baner nawddsant Cymru, Dewi Sant, fydd y faner o groes felen ar gefndir du, fydd yn chwifio dros adeilad y Llyfrgell ddydd Mawrth 1 Mawrth i ddathlu dydd ein nawddsant.
Gwybodaeth bellach:
Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg 01970 632534 neu post@llgc.org.uk