Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol yn croesawu ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad ar adnau cyfreithiol di-brint.

Gwe, 08 Ebr 11 10:00:00

Mae’r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol wedi croesawu ymateb Llywodraeth San Steffan i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar reoliadau a chanllawiau drafft ar adnau cyfreithiol di-brint’ a’i hymrwymiad i greu rheoliadau i ddeunydd di-brint.

Mae’r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol yn croesawu’n arbennig bwriad y Llywodraeth i greu rheoliad ar:

-    Adneuo gweithiau ar CD-ROM a chyfryngau all-lein eraill

-    Cynhaeafu cynnwys ar-lein, fydd yn galluogi archifo swm anferth o wybodaeth a’r rhan fwyaf o wefannau Prydeinig ac felly osgoi ‘twll du’ digidol

-    Cytundebau â chyhoeddwyr ar gyfer adneuo’r fersiwn ddigidol o waith printiedig yn hytrach na’r gwaith print ei hun. Galluoga hyn arbed costau yn y tymor hir i’r Lyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol a’r sector gyhoeddi.

Bydd y Llyfrgelloedd yn gweithio gyda’r Llywodraeth a’r diwydiant cyhoeddi i gyrraedd yr amcanion hyn yn ogystal â chyflenwi unrhyw wybodaeth ychwanegol i sicrhau llwyddiant y rheoliad yma. 

Yn ogystal, bydd y Llyfrgelloedd yn gweithio gyda’r diwydiant gyhoeddi i ddatrys unrhyw bryderon technegol a chanfod gwir gost a gwerth cyhoeddus reolaethu dulliau eraill o gyflenwi. Gobeithir, o fewn rhai blynyddoedd, y bydd yn bosib ehangu’r rheoliad i gynnwys dulliau eraill.

Gwybodaeth Bellach:


●    Y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol yw:
    Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, Llyfrgell Bodleian Rhydychen, Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt a Llyfrgell y Drindod Dulyn.



Manylion Cyswllt:

Sion Jobbins, Swyddfa'r Wasg LLGC 01970 632902 neu post@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012