Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Iau, 14 Ebr 11 10:04:00
Bydd gwaith dau artist swrreal sef Jean-Claude Charbonel a John Welson yn cael eu harddangos mewn arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o 16 Ebrill 2011 – 2 Gorffennaf 2011.
Daw’r ddau artist o Lydaw ac o Gymru, ond cyfarfuont â’i gilydd am y tro cyntaf yn 1978 yn y Camden Arts Centre, Llundain yn ystod agoriad arddangosfa Swrrealaidd Ryngwladol lle'r oeddent ill dau yn cyfrannu eu gwaith. Ers yr adeg honno, maent wedi bod yn ffrindiau mynwesol ac wedi arddangos gyda’i gilydd mewn arddangosfeydd dilynol.
Yn eu paentiadau, creodd y Swrrealwyr Salvador Dali a Rene Magritte fydoedd rhyfeddol, cyffrous a difyrrus. Mae Jean-Claude Charbonel a John Welson hwythau wedi arddangos ledled y byd gyda’r Swrrealwyr hyn am fwy na deng mlynedd ar hugain a chyd-gyflwyno arddangosfeydd o’u delweddau personol a thrawiadol hwy eu hunain. Mae eu darluniau’n portreadu golygfeydd sy’n llawn lliwiau llachar a siapiau y mae’r ddau artist wedi’u hamsugno o’r Swrreal ac o’u tirweddau brodorol.
Mae Jean-Claude Charbonel yn byw ac yn creu paentiadau a ‘blychau celf’ mewn stiwdio yn Llydaw sy’n orlawn o wrthrychau a broc môr a ganfuwyd ar hap. Y tu ôl i’w stiwdio, mae coed a nant gyda’i hwyaid nwyfus yn ildio’u lle i dirwedd o feini hir a chylchoedd cerrig Mae Charbonel, sy’n siarad Llydaweg, yn amsugno hanes a mythau ei fro. Yn llawn hyfrydwch a hynawsedd, daw’r bodau hyn yn geidwaid y creigiau a’r clogwyni; a hwythau’n warchodwyr y nos ymlwybrant o gysgodion Myth Celtaidd i synfyfyrio uwchben moroedd lloer-olau.
Daw John Welson o anialdir gwyllt sir Faesyfed , o genedlaethau lu o amaethwyr a fu’n trin y tir. Mae ei baentiadau yn adlewyrchiad o’r wlad - ei chadwyni o fryniau a dyffrynnoedd, y mythau a’r hanes sy’n gorwedd dan y bryniau grug. Mae goleuni a gwedd y bryniau â’u copaon crynion a magwyrydd y dyffrynnoedd yn creu rhyw rith o fwystfilod enfawr cysglyd.
Meddai Jaimie Thomas, Swyddog Arddangosfeydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn ymffrostio mewn casgliad cynhwysfawr o ddeunydd sy’n ymwneud â chenhedloedd Celtaidd gan gynnwys Llydaw. Rydym yn hynod falch o allu cryfhau ein cysylltiadau Celtaidd gyda’r gymdeithas Lydewig drwy gynnal yr arddangosfa arbennig hon o waith John Welson a Jean-Claude Charbonel."
Agorir yr arddangosfa yn swyddogol ddydd Sadwrn 16 Ebrill am 2.30p.m. gan Aneirin Karadog, cyflwynydd rhaglen Wedi 7 S4C sy’n hanner Llydawr ac sy’n rhygl mewn pum iaith sef Cymraeg, Llydaweg, Saesneg, Sbaeneg a Ffrangeg.
Dolenni Defnyddiol:
Tafodau Celtaidd
Gwybodaeth Bellach a delweddau:
Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg 01970 632534 neu post@llgc.org.uk