Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Ffilmiau Archif ar Sgrîn Fawr BBC yn Abertawe

Mer, 20 Ebr 11 08:55:00

Bydd siopwyr a cherddwyr yng nghanol Abertawe yn gallu mwynhau cip olwg ar yr hen ddinas. Gan ddechrau'r wythnos hon dangosir ffilmiau archif o gasgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru ar sgrin fawr y BBC a leolir yn Sgwar y Castell.

Dangosir pump ffilm archif o’r casgliad a byddant yn cynnwys delweddau o adeiladau nodweddiadol y ddinas yn 1952, gan gynnwys Gorsaf Bŵer Tir John (sydd bellach wedi’i ddymchwel) y Guildhall a Llyfrgell y Brifysgol ym Mharc Singleton. Gellir hefyd gweld ymweliad y Frenhines Mary i Barc Singleton ar 28 Mai, 1938. a ceir hefyd glip Archif o ardal y dociau yn ystod yr ail ryfel byd. 

Lleolir yr Archif Sgrin a Sain o fewn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Mae’n gartref i gasgliad cynhwysfawr a digymar o ffilmiau, rhaglenni teledu, fideos, recordiadau sain a cherddoriaeth sy’n perthyn i Gymru neu o ddiddordeb Cymreig.

Dywed Anwen Pari Jones ar ran Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru;

'Mae rhai o ffilmiau yr Archif eisoes yn cael eu dangos ar y Sgrin Fawr yng Nghaerdydd, ac mae’n wych bod ffilmiau o’n casgliadau nawr i’w gweld ar y sgrin yn Abertawe hefyd.  Rwy’n gobeithio y gwneith pobl sy’n pasio cymryd hoe i’w gwylio gan roi cip olwg i orffennol Abertawe a hefyd diddordeb yn ffilmiau’r Archif. Rydym wastad yn edrych ar ffyrdd o rannu’n casgliadau ac mae hwn yn llwyfan gwych.'

Dywedodd Archifydd y Sir, Kim Collins; 

'Mae'r Sgrin Fawr eisioes wedi ennill ei phlwyf fel man i ddangos ffilmiau o'r archif, felly rwy'n falch o weld bod ffilmiau newydd yn cael eu hychwanegu at yr arlwy a gyflwynir arni yn rheolaidd. Gobeithio bydd gweld y ffilmiau yn codi awydd ar bobol i ddarganfod mwy am eu hanes.'

Bydd y ffilmiau i’w gweld o’r wythnos hon. 



Manylion Cyswllt:

Anwen Pari Jones, 01970 632535 neu ajo@llgc.org.uk
Sion Jobbins, Swyddfa'r Wasg, 01970 632902 neu post@llgc.org.uk


www.archif.com


 


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012