Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Winifred Coombe Tennant – Gwraig Ryfeddol

Mer, 11 Mai 11 12:51:00

Cyhoeddiad diweddaraf Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw dyddiadur un o fenywod mwyaf rhyfeddol Cymru’r ugeinfed ganrif, Winifred Coombe Tennant.  Mae Between two worlds: the diary of Winifred Coombe Tennant 1909 – 1924 yn ddyddiadur sy’n dweud cyfrolau am ddynes cymleth a chyfnod cythryblus. Golygydd y gyfrol yw Peter Lord.
 
Mae dyddiadur  Winifred Coombe Tennant (1874-1956) yn ddogfen ryfeddol. Mae’r geiriau yn ei chofnodion dyddiol (1909-55) yn rhifo miliwn a chwarter. Maent yn cofnodi bywyd mewnol dwys yr awdur ochr yn ochr â’i sylwadau craff ar y byd mawr y tu allan drwy gyfnod o dryblith digyffelyb.  

Bu Winifred yn brwydro drwy gydol ei hoes gyda thensiwn rhwng ei chredoau metaffisegol ac ymarferoldebau newid y drefn gymdeithasol. Hi, yn ei hoes, oedd y gyfryngwraig ysbrydol (spiritual medium) a gafodd y sylw mwyaf,  ac roedd hi’n gariad i Gerald Balfour, un o weinidogion y cabinet a brawd y cyn Brif Weinidog. Yn ddiweddarach daeth yn un o gyfeillion agos Lloyd George ac ymwelai’n gyson â rhif 10 Stryd Downing, lle y bu’n dyst i ddigwyddiadau tyngedfennol megis trafod telerau y Cytundeb Eingl-Wyddelig yn 1921. Roedd hi’n ymgyrchydd dros y bleidlais i fenywod, yn ymgeisydd seneddol, a hi oedd y dirprwy Prydeinig benywaidd cyntaf yng Nghyngrair y Cenhedloedd. Fel noddwraig arlunwyr ieuanc, daeth yn ffigwr canolog ym myd celf Cymru. 

Mae’r argraffiad hwn o’r dyddiadur gyda nodiadau’n cyflwyno’r blynyddoedd mwyaf  dwys a chofiadwy hynny yn ei bywyd cyhoeddus a’i bywyd preifat. Gellir ei ddarllen fel llenyddiaeth, fel hanes siwrnai ysbrydol a deithiwyd yn erbyn cefndir o drasiedi bersonol ac ymdrech gyhoeddus. Yn achos y gymuned academaidd, mae’n datgelu gwybodaeth newydd bwysig a dirnadaeth bersonol o ddigwyddiadau sy’n berthnasol i feysydd astudiaethau merched, hanes gwleidyddol a chymdeithasol, a seicoleg. 

Yn ôl Ffion Hague, awdures The Pain and the Privilege – the Women in Lloyd George’s Life, 

‘Mae ‘Between two worlds’ yn destun tra phwysig ar gyfer unrhyw un sy’n ymddiddori yng ngweleidyddiaeth blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Yma, fe geir tystiolaeth gan gymeriad sy’n aml yn gwrthddweud ei hun  ond sydd hefyd yn wraig gyfareddol a thra nodedig. Heb os, gwraig ei hoes a’i hamser oedd Winifred Coombe Tennant ac y mae ei dyddiadur yn drysorfa sy’n rhoi mewnwelediad arbeinnig iawn i ni o wleidyddiaeth a chymdeithas uchel ael y cyfnod.’

Dywed Yr Athro Angela V. John

‘Mae’r  dyddiadur cymhellgar hwn, sy’n cynnwys nodiadau a darluniau rhagorol, yn darparu dirnadaeth werthfawr o’r rhwystrau a’r cyfleoedd newydd a wynebai wraig amldalentog o Gymru yn chwarter cyntaf yr ugeinfed ganrif. Cynorthwyodd Winifred Coombe Tennant i ddod â merched i’r amlwg mewn bywyd cyhoeddus, boed hynny drwy etholfraint, drwy fod yn ymgeisydd seneddol, drwy ffurfio polisi Rhyddfrydol cenedlaethol neu drwy’r  ynadaeth a Chynghrair y Cenhedloedd. Mae ei chofnodion hynod yn dilyn hynt ei rôl fel cyfeilles fynwesol Lloyd George, fel ffigwr blaenllaw yn yr ymchwiliad i ffonenoma seicig ac fel hyrwyddwraig frwd achosion cymdeithasol a diwylliannol Cymreig.  Mae’r  cofnod dengar hwn yn rhoi golwg i ni ar  Winifred Coombe Tennant fel cariad ac fel mam, yn dioddef gwewyr  colled yn sgîl rhyfel.’ 


Yr awdur, Peter Lord

Mae Peter Lord yn Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n awdur cydgyfrol i’r gyfrol bresennol, Winifred Coombe Tennant: A Life through Art, a gyhoeddwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2007. Y diweddaraf o’i lu o lyfrau eraill yn ymwneud â diwylliant gweledol yw The Meaning of Pictures: Images of Personal, Social and Political Identity, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2009.


Between two worlds
The diary of Winifred Coombe Tennant 1909-1924
Peter Lord
£24.99


5.30 p.m. nos Wener 27 Mai 
Darlith gan Peter Lord yn Darlithfa James Callaghan
Prifysgol Abertawe

Gwybodaeth Bellach:

Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902  post@llgc.org.uk 


Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012