Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Llu, 27 Meh 11 11:39:00
Bydd Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yr Arglwydd Dafydd Wigley, yn rhoi gorau i’w swydd ymhen y misoedd nesaf. Daw hyn wedi pedair blynedd o wasanaeth diflino i un o brif sefydliadau Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru (fydd yn apwyntio’r Llywydd newydd) yn chwilio am unigolyn ymroddedig, brwdfrydig a chryf ei gymhelliant a all gyfrannu at y gwaith parhaus o gryfhau a datblygu Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Byddai disgwyl i’r deilydd fod â diddordeb gwirioneddol ym materion y Llyfrgell a’i chynulleidfaoedd a dealltwriaeth o gyfrifoldebau Ymddiriedolaeth.
Manylion Swydd:
Am ragor o wybodaeth am y swydd ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Am wybodaeth Bellach:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902 post@llgc.org.uk