Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Iau, 11 Aws 11 14:19:00
Eisiau holi cwestiwn a chael ateb awdurdodol sydyn? Os felly, gall diwrnod arbennig #HoliLlyfrgellydd fod o ddefnydd i chi.
Trwy ddydd Iau 25 Awst bydd modd i’r cyhoedd wneud defnydd llawn o wasanaeth holi’r Llyfrgell Genedlaethol trwy ddanfon neges ar ei system Sgwrs Sydyn. Bydd staff Uned Ymholiadau yna yn mynd ati i geisio ateb cwestiynau cyn gynted â bod modd.
‘Mae hyn yn arbrawf newydd ar ran y Llyfrgell,’ meddai Nia Dafydd, Rheolwr yr Uned Ymholiadau. ‘Fel arfer, oherwydd rhesymau staffio, cyfyngir y gwasanaeth yma i awr neu ddwy y dydd, ond ein bwriad ar ddydd Iau 25 Awst fydd ymestyn y gwasanaeth unigryw yma ar draws y diwrnod cyfan.’
Gall ymholwyr ofyn unrhyw gwestiwn am gasgliadau’r Llyfrgell gan amrywio o wybodaeth am hanes teulu, hanes lleol, mapiau, llawysgrifau, ffotograffau, darluniau, cardiau post, yr Archif Wleidyddol a phapurau newydd Cymru. Does ond angen clicio ar eicon ‘Sgwrs Sydyn’ sydd ar dudalen flaen wefan y Llyfrgell a bydd aelod o staff ar gael i sgwrsio.
‘Mae’r Llyfrgell yn derbyn tua 8,000 o ymholiadau’r flwyddyn. Ymysg y cwestiynau mwyaf poblogaidd yn draddodiadol mae ymholiadau hanes teulu neu hawlfraint atgynhyrchu delweddau ond does byth dau gwestiwn yr un peth,’ ategodd Nia. ‘Rwy’n cofio unwaith i rhywun holi’r Llyfrgell Genedlaethol i awgrymu enw Cymraeg i’w ci!’
Sgwrs Sydyn dydd Iau 25 Awst
Dilynwch ni ar Twitter @LLGCymru #HoliLlyfrgellydd
Am wybodaeth bellach:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902 post@llgc.org.uk