Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

YanYann Fouéré – Lansiad Llyfr y Llydawr a ffodd i Gymru wedi’r Rhyfel

Llu, 12 Med 11 16:20:00


Ar nos Wener 16 Medi 2011 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth lansir cofiant Llydawr di-ildio a orfodwyd i ffoi i Gymru ac yna’r Iwerddon.

La Maison - The History of a Breton yw ail cofiant Yann Fouéré a anwyd yn 1910. Bu’n un o sefydlwyr ‘Ar Brezhoneg er Skol’ yn 1934 – mudiad a grewyd i hyrwyddo dysgu Llydaweg a hanes Llydaw yn yr ysgolion ar adeg pan waharddwyd hynny gan Ffrainc. Yn ystod y Rhyfel bu’n olygydd ar ddau bapur Llydewig, La Bretagne a Dépêche de Brest ac yn aelod o Comité Consultatif de Bretagne, corff ymgynghorol ar hawliau Llydewig a roddodd beth hawliau ym maes dysgu iaith a hanes Llydaw.

Gyda diwedd y Rhyfel arestiwyd miloedd o Lydäwyr oedd wedi bod yn weithgar mewn mudiadau ieithyddol a diwylliannol. Yn yr hinsawdd yma ffodd Yann Fouéré i Baris ac yna, o dan pasport ffug, i Gymru. Yng Nghymru cafodd loches gan DJ Davies a’i wraig Noelle yn Y Fenni gan symud ymlaen i aros gyda Gwynfor Evans yn Llangadog, DJ Williams yn Abergwaun, Gwenallt yn Aberystwyth. Bu’n lletya hefyd yn nhŷ y diweddar Delwyn Phillips o Aberystwyth a oedd yn byw yn Birmingham ar y pryd. Er iddo ganfod gwaith yn dysgu Ffrangeg yn y Brifysgol yn Abertawe bu’n rhaid iddo ffoi unwaith eto i’r Iwerddon er mwyn osgoi cael ei gosbi gan y Ffrancwyr. Canfyddodd ffoaduriaid Llydewig eraill yn yr Iwerddon ac yn y pendraw cydsefydlodd fusnes llwyddiannus yn ffermio ac allforio cimychiaid yn ardal Connemara yng ngorllewin y wlad.  

Mae Yann Fouéré bellach yn 101 oed ac yn byw yn Sant Brieg, gefeilldref Aberystwyth. Yn 1958 fe’i difeiwyd gan lys ym Mharis o’r holl gyhuddiadau a wnaed yn ei erbyn yn dilyn Rhyfel. Mae ei gyfraniad i wleidyddiaeth a diwylliant Llydaw a’r gwledydd Celtaidd wedi bod yn sylweddol. Roedd yn gyfrannwr cyson i bapurau yn yr Iwerddon a Llydaw a sawl gwlad arall a hynny’n aml dan ffugenwau. Ymhlith ei waith mwyaf adnabyddus a dylanwadol mae L’Europe aux Cents Drapeaux a gyhoeddwyd yn 1968 ac a chyfieithwyd i’r Saesneg fel Towards a Federal Europe yn 1980. Ceir llawer o wybodaeth amdanno ac erthyglau ganddo ar wefan Fondation Yann Fouéré: www.fondationyannfouere.org/ 

Cyfieithwyd La Maison – The History of a Breton gan ei ferch, Rozenn Fouéré Barrett. Ac fe’i cyhoeddir gan Old Chapel Press o’r Iwerddon. Bydd hi ai brawd, Erwan, yn y lansiad yn y Llyfrgell Genedlaethol. Arweinir y noson gan Dafydd Wigley. Dyma fydd un o ddigwyddiadau olaf Dafydd fel Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol. 

Lansiad La Maison – The History of a Breton
6.30 nos Wener 16 Medi 2011
Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Tocynnau am ddim: www.llgc.org.uk/drwm 


La Maison – The History of a Breton 
ISBN 978-0-9560062-2-6, (www.oldchapelpress.net)  
Gwefan Fondation Yann Fouéré: www.fondationyannfouere.org/ 

Am wybodaeth bellach:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902  post@llgc.org.uk 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012