Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Iau, 03 Tac 11 09:56:00
Mae Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, wedi cyhoeddi bod Syr Deian Hopkin wedi'i benodi'n Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Bydd yn dechrau yn y swydd ar 1 Rhagfyr 2011 a bydd yn parhau am 4 blynedd.
Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth:
"Mae'n bleser gennyf benodi Syr Deian Hopkin yn Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd Syr Deian yn cyfrannu profiad helaeth i'r swydd, sy'n amrywio o aelodaeth o Lys a Chyngor y Llyfrgell Genedlaethol i arwain sefydliad addysgol sylweddol. Rwy'n hyderus y bydd ei sgiliau a'i brofiad yn amhrisiadwy wrth i waith hollbwysig un o'n sefydliadau cenedlaethol barhau i ddatblygu."
Dywedodd Syr Deian Hopkin:
"Mae cyfrannu at waith hollbwysig y Llyfrgell Genedlaethol fel ei Llywydd yn anrhydedd enfawr, gan mai hwn yw un o'n sefydliadau pwysicaf. Rwy'n edrych ymlaen at ymuno â'm Cyd-Ymddiriedolwyr ac â'r staff i sicrhau bod y Llyfrgell yn parhau i fynd o nerth i nerth. Rwy'n ddefnyddiwr brwd o'r Llyfrgell ers blynyddoedd lawer ac rwyf wedi bod yn aelod o'i Chyngor, felly rwy'n ymwybodol iawn o'i rôl hollbwysig o fewn bywyd diwylliannol a deallusol Cymru. Rwy'n gyffrous iawn ynghylch y datblygiadau posibl yn y dyfodol â'r byd digidol gan y gall pobl Cymru a gweddill y byd elwa cymaint arnynt. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at arwain y Llyfrgell dros y blynyddoedd nesaf".
Dywedodd Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Mae staff y Llyfrgell Genedlaethol yn falch iawn fod Syr Deian Hopkin wedi'i benodi'n Llywydd. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio'n agos ag ef wrth iddo arwain y Llyfrgell i'r dyfodol a hybu ei gwasanaethau, er lles Cymru a'i phobl.”
Cafodd Syr Deian Hopkin ei benodi'n Llywydd ar ôl i'r Arglwydd Wigley o Gaernarfon benderfynu peidio â cheisio cael ei ailbenodi am ail dymor.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Non Jones ar 029 2089 8490 neu Kate James ar 029 2089 8169
Bywgraffiad
Syr Deian Hopkin:
Deian Hopkin oedd Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr Prifysgol South Bank yn Llundain hyd ei ymddeoliad yn 2009 ar ôl treulio 42 o flynyddoedd ym maes addysg uwch. Ganed Syr Deian Hopkin yn Llanelli, a chafodd ei addysgu yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant a Choleg Llanymddyfri. Enillodd radd mewn Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth a bu'n addysgu yno am 24 o flynyddoedd. Fe'i penodwyd yn Bennaeth yr Adran Addysgu yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd hefyd yn aelod o'r Brifysgol Agored yng Nghymru am flynyddoedd lawer. Fel hanesydd arbeniga yn y mudiad llafur yng Nghymru, ac mae hefyd wedi arbenigo yn y defnydd o dechnolegau digidol o fewn y dyniaethau. Mae wedi bod yn aelod o Gyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac o Gyngor Cynghori Cyffredinol y BBC. Mae hefyd yn ddarlledydd ac yn golofnydd profiadol iawn. Mae wedi bod yn weithgar iawn ym maes polisi addysg cenedlaethol ers sawl blwyddyn, gan ymwneud â sawl corff gan gynnwys y Cyngor Dysgu a Sgiliau. Mae'n aelod o sawl corff ar hyn o bryd gan gynnwys Prifysgol Cyngor Essex, Cyngor y City and Guilds, y Cyngor ar gyfer Cynorthwyo Academyddion sy'n Ffoaduriaid a bwrdd cynghori Times Higher Education. Mae hefyd yn noddwr neu'n ymddiriedolwr o sawl elusen, gan gynnwys y Sefydliad Ymchwil Hanesyddol. Nid yw'n meddu ar unrhyw benodiad cyhoeddus arall gan Weinidog.