Thu, 31 Jul 08 15:39:00
Digwyddiadau'r Llyfrgell yn yr Eisteddfod
Thema'r stondin eleni yw Caerdydd ac mae'n cynnwys lluniau a dogfennau'n ymwneud â hanes y ddinas ac yn enwedig hanes y Gymraeg yn y Brifddinas.
Mae Culturenet Cymru hefyd ar yr un lleoliad a byddan nhw'n digido archifau'r genedl yn y fan a'r lle. Felly, os oes gennych chi neu'ch clwb ddogfennau difyr neu phwysig yn eich meddiant, beth am ddod a nhw draw i stondin y Llyfrgell i Culturenet Cymru eu digido a'u rhoi ar eu gwefan i'r genedl eu gweld?
Cynhelir sawl digwyddiad drwy gydol yr wythnos gan gynnwys perfformiadau gan y gantores boblogaidd Heather Jones a'r rapiwr Aneurin Karadog.