Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

O Batagonia i Aberystwyth

Tue, 19 Aug 08 15:40:00

Dafydd Wigley, Gabriel Restucha, Andrew Green


Cyflwynwyd y cyhoeddiadau i Lywydd y Llyfrgell, Dafydd Wigley a’r Llyfrgellydd, Andrew Green yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd gan Faer Gaiman, Gabriel Restucha.


 


 


Etholwyd Gabriel yn Faer ym mis Tachwedd 2007 ac ef yw maer Cymraeg ei iaith cyntaf Gaiman ers 1954. Er gwaethaf ei gyfenw Eidalaidd, mae ganddo gefndir Cymraeg cryf; roedd ei nain o Aberdâr a’i daid o Lanuwchllyn. Mae’r maer 36 oed wedi ail-ddysgu’r Gymraeg ac ef sy'n gyfrifol fod arwyddion dwyieithog - Sbaeneg a Chymraeg yn y dref.


 

Cyflwynodd Gabriel amrywiaeth o gyhoeddiadau am dalaith Chubut yn yr Ariannin - y dalaith lle lleolir y Wladfa Gymreig. Mae’r cyhoeddiadau’n rhodd gan y dalaith ac yn arwydd o’r cydweithio agos sydd bellach rhwng Chubut a Chymru.


 


Bydd y cyhoeddiadau’n ychwanegiad pwysig i archifau helaeth y Llyfrgell am y wladfa. Mae’r Llyfrgell hefyd yn un o'r partneriaid ym mhrosiect digido archifau’r Cymry yn yr Ariannin, glaniad.com.


 


 


Dolenni:


 

 


Am wybodaeth bellach:


 


Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 sion.jobbins@llgc.org.uk


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012