Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Cynhadledd Gwisg Draddodiadol Cymru

Fri, 22 Aug 08 16:46:00

 


Cynhelir cynhadledd undydd arbennig ar bwnc Gwisg Draddodiadol Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 20 Medi.


 


Bydd pedwar o brif arbenigwyr Cymru ar y wisg ac ar decstiliau Cymreig yn rhannu eu barn. Pris mynediad yw £20 (£14 i fyfyrwyr) sy'n cynnwys cinio yn y Llyfrgell.


 


Rhaglen y gynhadledd


 


 


Siaradwyr y gynhadledd


Jen Jones: Cwiltiau Cymreig: Y tu mewn a’r tu allan


Rhoddwyd cychwyn ar obsesiwn Jen â chwiltiau gan y rhai yng nghartref ei theulu ym Massachusetts ond dim ond pan gyrhaeddodd hi Gymru yn 1971 y daeth yr obsesiwn i’w lawn dŵf. Mae hi wedi ysgrifennu dau lyfr; Welsh Quilts - A Towy Guide a Les Quilts Gallois / Welsh Quilts. Mae hi’n darlithio’n eang yn y wlad hon ac yn yr Unol Daleithiau ac mae hi wedi trafod cwiltiau Cymreig yn aml ar y teledu a’r radio.


 


 


Dorothy Osler: Y deunyddiau cymysgedd sidan mewn gwisgoedd Cymreig o Ogledd Cymru


Caiff ei chydnabod yn rhyngwladol fel yr arbenigwraig mwyaf blaenllaw ar draddodiadau cwiltio hanesyddol Prydain ac mae hi wedi cyhoeddi llyfrau a phapurau academaidd yn y maes tecstilau hwn, gan geisio cynyddu ymwybyddiaeth o draddodiadau cynhenid cwiltio gan gynnwys rhai Cymreig. Yn 2004 dyfarnwyd Ysgoloriaeth Ymchwil Wingate iddi i ymchwilio i’r cysylltiad croes ddiwylliannol posibl rhwng cwiltiau Cymreig y 19eg ganrif a chwiltiau a wnaed gan gymunedau Amish yn Unol Daleithiau America.


 


 


Michael Freeman: Y dystiolaeth ysgrifenedig a gweledol dros y wisg Gymreig, 1770 – 1870


Dechreuodd ei ddiddordeb mewn gwisgoedd Cymreig yn 2004 pan dechreuodd ddarllen dyddiaduron pobl oedd wedi ymweld â Chymru yn y 18fed ar 19eg ganrif fel rhan o brosiect arall. Dilynodd hyn drwy grynhoi casgliad o ddelweddau o wisgoedd Cymreig, a gwneud astudiaeth fanwl o hetiau a begynau Cymreig.


 


 


Huw Roberts: Ail-greu gwisgoedd Cymreig ar gyfer Dawnsio Gwerin


Brodor o Langefni, Ynys Môn yw Huw Roberts ac mae’n ffigwr adnabyddus ym meysydd cerddoriaeth a dawnsio gwerin yng Nghymru. Mae ef a’i wraig, Bethan wedi ffurfio’r partïon dawnsio gwerin Cymreig, Ffidl Ffadl a Dawnswyr Bro Cefni. Yn ddiweddar cyhoeddodd Pais a Becon - Gwn stwff a Het Silk - llyfr dwyieithog ar wisg Gymreig Draddodiadol Sir Fôn yn y 19eg ganrif.


 


 


Am wybodaeth bellach:


 


Delyth Morgan: 01970 632 800 delyth.morgan@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012