Fri, 05 Sep 08 11:05:00
Bydd un o drefi bychan enwocaf Cymru yn destun arddangosfa o ffotograffau gan Jeremy Moore fydd yn agor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddydd Sadwrn 20 Medi.
Mae arddangosfa Blaenau: Rhwng y Ddaear a'r Nefoedd yn cyfuno ffotograffau o’r dref sy’n enwog am ei llechi a’i glaw â barddoniaeth gŵr o’r dref, Gwyn Thomas. Cynhelir yr arddangosfa rhwng 20 Medi – 22 Tachwedd 2008.
Blaenau Ffestiniog yw un o’r llefydd mwyaf hynod ym Mhrydain - tref sydd yn wir wedi ei hadeiladu ar lechi. Am dros ddwy ganrif cloddiwyd llechi o’r mynyddoedd o gwmpas Blaenau i doi tai'r byd. Mae tipiau gwastraff anferth yn dominyddu’r dref; adeiladau diwydiannol, peiriannau a deunyddiau wedi cael eu gadael i sefyll a dihoeni, a hyn i gyd yng nghyd-destun mawredd tirlun gogledd Cymru.
Pan luniwyd ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri cafodd rhan fechan, gyda Blaenau yn ei chanol, ei heithrio. Aeth y ffotograffydd o ardal Aberystwyth, Jeremy Moore, ati i archwilio’r llecyn hwn yn 2006, ac mae’n gosod gweithgarwch dynol yno yn y dirwedd garw ac aruchel. Mae’r ffotograffau yn fan cyfarfod rhwng y traddodiadau dogfennol a thirlunio, ac yn cyfleu’r presenoldeb dynol mewn modd ystyrlon.
Tra bod yn rhaid gobeithio na fydd rhai agweddau ar yr ardal byth yn newid, mae natur ddogfennol y ffotograffau eisoes yn werthfawr. Cafodd adeiladau unigryw eu dymchwel ers 2006, ac mae ffyrdd newydd i’r gogledd o’r dre wedi newid yr ardal honno am byth.
Yn cyd-fynd â’r ffotograffau mae barddoniaeth gan Yr Athro Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol Cymru yn 2006. Mae’r cyfan yn cael ei gynnwys yn y llyfr Blaenau Ffestiniog.
Mae Jeremy Moore yn un o brif ffotograffwyr tirlun Cymru. Mae ei arddangosfeydd blaenorol yn cynnwys Glyndwr’s Place (2004), Heart of the Country (2003-04), ac After the Wildwood (1990-92). Am fwy o wybodaeth gweler www.wild-wales.com
Bydd Jeremy Moore yn rhoi sgwrs oriel i gyd-fynd â’r arddangosfa am 1.15pm dydd Iau 23 Hydref.
Bydd hefyd yn un o’r siaradwyr gwadd yng ngŵyl ffotograffiaeth ddogfennol, Lens a gynhelir yn y Llyfrgell ar ddydd Sadwrn 1 Tachwedd.
Am wybodaeth bellach
Medi Jones-Jackson, Swyddfa’r Wasg LlGC 01970 632 534 llinosmedi.jones@llgc.org.uk