Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Penodiad newydd

Fri, 12 Sep 08 13:21:00

 


Mae'n bleser gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gyhoeddi fod Arwel "Rocet" Jones wedi’i benodi yn Gyfarwyddwr Adran Gwasanaethau Cyhoeddus y Llyfrgell.


 


Mae Arwel, yn enedigol o Rhos-y-bol, Ynys Môn, yn wyneb cyfarwydd i nifer ar draws Cymru ac yn lais cyfarwydd ar Radio Cymru ac ar S4C. Yn awdur ac yn fardd, fe addysgwyd Arwel yn Ysgol Uwchradd Amlwch a Phrifysgol Cymru Aberystwyth. 


 


Ymunodd Arwel â staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1991 pan y penodwyd ef yn Gynorthwy-ydd Ymchwil ar y Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau. Yn 2006 penodwyd Arwel yn Bennaeth Datblygiadau Digidol gyda chyfrifoldeb dros lywio a chydlynu strategaeth ddigido’r Llyfrgell. Yn ystod ei gyfnod yn y swydd enillodd y Llyfrgell gefnogaeth ariannol gan JISC (Joint Information Systems Committee) a Llywodraeth Cynulliad Cymru i ymgymryd â phrosiect blaengar i sganio a mynegeio 50 o gyfnodolion Cymreig a gyhoeddwyd ar ôl 1900.


 


Yn ei rôl newydd mi fydd Arwel yn gyfrifol am weithredu polisïau a strategaethau’r Llyfrgell o fewn yr Adran Gyhoeddus, cynyddu niferoedd ymwelwyr ac ehangu darparieth y Llyfrgell. Ef hefyd fydd yn gyfrifol am lywio a goruchwilio gwaith hyrwyddo, arddangosfeydd, Archif Sgrin a Sain a gwasanaethau darllenwyr y Llyfrgell.


 


Yn ôl Arwel, "Rwyf yn edrych ymlaen at ymgymryd â’r swydd newydd. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o lyfrgelloedd mawr y byd ac yn sefydliad pwysig yn niwylliant a hanes Cymru. Edrychaf ymlaen at fod â rhan yn y gwaith o rannu’r trysorau hyn â phobl Cymru a’r byd."


 


Yn ôl Andrew Green, y Llyfrgellydd Cenedlaethol, "Rwyf wrth fy modd i groesawu Arwel Jones fel Cyfarwyddwr newydd Gwasanaethau Cyhoeddus y Llyfrgell.  Bydd yn siwr o wneud cyfraniad sylweddol yn siapio dyfodol y Llyfrgell wrth i ni wynebu’r sialens o weithredu mewn oes ddigidol ac ymgymryd â newidiadau yn y byd gwybodaeth."


 


 


Am wybodaeth bellach


 


 


Medi Jones-Jackson


Swyddfa’r Wasg


Llyfrgell Genedlaethol Cymru


Aberystwyth


SY23 3BU


 


llinosmedi.jones@llgc.org.uk


01970 632 534

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012