Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Llyfrgell Genedlaethol yn cyhoeddi polisi strategaeth newydd

Tue, 30 Sep 08 15:12:00

 


Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn hawlio’i lle ochr yn ochr â rhai o lyfrgelloedd mawr y byd pan fydd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones AC, yn dadorchuddio ei strategaeth dair blynedd newydd, Llunio’r Dyfodol, yn y Senedd ddydd Mercher yma.


 


Fel rhan o’i nod i gynyddu mynediad, bydd staff y Llyfrgell yn dechrau ar brosiect digido deng mlynedd sy'n anelu i osod cymaint ag y bo modd o gasgliad y Llyfrgell arlein er mwyn i bawb eu harchwilio a’u mwynhau, ym mha bynnag gwr o’r byd y maent.


 


Bydd y deunydd ar gael ar gyfer bob math o ddibenion, boed yn gymorth i’r sector addysg ar bob lefel neu’n fan cyfeirio i bobl sydd am wybod rhagor am hanes eu teulu.  


 


Fel y dywedodd ei Llywydd, y Gwir Anrhydeddus Dafydd Wigley, wrth sôn am uchelgais y Llyfrgell ar gyfer y dyfodol:


 


‘Rydym am fod yn ffenestr i Gymru, gan roi cyhoeddusrwydd i Gymru’r gorffennol a’r presennol, yn ogystal â’r dyfodol wrth i ddeunydd newydd gael ei ychwanegu. Bydd hyn yn gymorth i roi hwb i economi Cymru, annog pobl i ymweld ac/neu ddefnyddio ei gwasanaethau a hefyd ei helpu i fod yn rym blaenllaw yn ddiwylliannol ac yn ddeallusol. Bydd y prosiect yn dangos fod Cymru yn llwyddo yn ei nod o ddod yn economi wybodaeth ac ar flaen y gad o ran technoleg fodern, gan ddatblygu sgiliau ac arbenigedd i’w hedmygu gan eraill. Bydd digideiddio hefyd yn herio pobl i ailystyried yr argraff sydd ganddynt o Gymru.  Bydd yn fodd i atgoffa’r rheiny sy’n byw yma fod Cymru yn fwy na dim ond darn o dir, ac yn atgoffa’r Cymry Alltud nad yw bod yn Gymro o angenrheidrwydd yn golygu eich bod yn gorfod byw yn y wlad’.


 


Dywedodd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones AC;


 


‘Rwy wedi fy nghalonogi’n fawr i weld Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymateb i’r her a’r cyfleoedd sy’n dod yn sgil y dechnoleg newydd. Bydd y strategaeth hon yn sicrhau fod adnoddau electronaidd yn cymryd eu lle ysgwydd wrth ysgwydd gyda llyfrau, llawysgrifau a ffotograffau yng nghasgliadau’r Llyfrgell. Mae’r strategaeth yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes wrth agor y drysorfa enfawr a diddorol yma yn un o’n prif sefydliadau i gynulleidfaoedd newydd am ddim yma yng Nghymru a thu hwnt i’r ffin, ar y rhyngrwyd.’


 


 


Am ragor o wybodaeth


Sara Branch, Rheolwr Strategaethau ac Ymchwil


01970 632 839  sara.branch@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012