Thu, 29 Mar 07 14:34:00
Ar ddydd Iau 29 Mawrth bydd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, yn lansio’n swyddogol gwefan newydd rhyngweithiol Llyfrgell Genedlaethol Cymru www.llgc.org.uk.
Gyda 1,675 o dudalennau wedi eu mynegeio, sy'n cynnwys 33,200 o eiriau a 233,198 o gofnodion yn y tabl perthynas mae’r wefan yn haws i’w defnyddio ac yn edrych yn well nag erioed o’r blaen.
Mae’r wefan newydd ei golwg yn gweddu system rheoli gwybodaeth Virtua a ddatblygwyd gan gwmni VTLS o Virginia, UDA ac a ariannwyd gan Lywodraeth y Cynulliad. Rhyddha hwn ffyrdd cynhyrfus o gyrraedd casgliadau ac archifau pwysicaf Cymru ac mae’n rhan o strategaeth y Llyfrgell Genedlaethol i weddnewid ei hun i lyfrgell ddigidol dros y ganrif nesaf. Gall porwr nawr wneud un chwiliad ar gyfer llyfrau a mapiau a deunydd graffeg ac adnoddau electoriaidd, ac ehangir hyn yn fuan i gynnwys casgliadau archifol, rhaglenni teledu a radio a ffilm o fewn system wedi ei hintergreiddo’n llawn.
Mae’r wefan wedi ei hail-ddylunio’n llwyr o ran golwg, teimlad, cynnwys a strwythur. Gwnaed ymchwil trylwyr i ganfod anghenion y defnyddwyr a hefyd i sicrhau fod y wefan newydd gyda thueddiadau cyfoes ac mor glir a hawdd i’w ddefnyddio a phosibl.
Gall ymwelwyr i’r wefan weld rhai o eiconau mwyaf Cymru - Llyfr Du Caerfyrddin, Cyfraith Hywel Dda ac adroddiad addysg ddrwg-enwog 1847, y Llyfrau Gleision yn ogystal â hen fapiau o Gymru, ffotograffau ac arddangosfeydd arlein.
‘Gyda dros 800,000 i 1,000 000 hit a rhyw 30,000 defnyddiwr unigryw y mis, mae’r Llyfrgell yn un o’r gwefannau mwyaf poblogaidd o Gymru. Hyderwn y bydd ein buddsoddiad a symleiddio’r adnodd chwilio yn ogystal â’i hedrychiad, yn apelio at fwy o ymchwilwyr a defnyddwyr nag erioed o’r blaen,’ meddai’r Llyfrgellydd, Andrew Green.
Dywedodd y Prif Weinidog, Rhodri Morgan: “Rwy wedi cael argraff arbennig o dda o wefan newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd yn galluogi pobl i weld pob math o wybodaeth na fyddai’n bosibl fel arall heb deithio i Aberystwyth.
“Cyflwynodd Llywodraeth y Cynulliad £1 miliwn i’r prosiect sy’n adlewyrchiad o’r pwysigrwydd a roddir ganddom i sefydlu’r Llyfrgell fel canolfan fyd-enwog ar gyfer ymchwil a dysgu rhyngweithiol. Does gen i ddim amheuaeth y bydd y wefan yn llwyddiant mawr.’
Lansiad gwefan newydd LlGC:
3.15pm dydd Iau
29 Mawrth 2007
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Gwefan LlGC:
Gwybodaeth Bellach a Delweddau:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 sij@llgc.org.uk