Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

‘Ambell Atgof Gwleidyddol’ – Yr Arglwydd Elystan-Morgan

Fri, 03 Oct 08 16:18:00

 


Yr Arglwydd Elystan Morgan fydd siaradwr gwâdd Darlith Flynyddol Yr Archif Wleidyddol Gymreig eleni, a gynhelir ar ddydd Gwener 7 Tachwedd. Dyma’r ddiweddaraf mewn cyfres o ddarlithoedd a drefnir gan yr Archif Wleidyddol sy’n rhan o’r Llyfrgell Genedlaethol. Pwnc darlith yr Arglwydd Elystan-Morgan yw ‘Ambell atgof gwleidyddol’.


 


Yn wreiddiol o Aberystwyth, addysgwyd Elystan Morgan yn Ysgol Ramadeg Ardwyn cyn graddio ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth gyda gradd yn y gyfraith. Daeth yn gyfreithiwr yn 1957 gan adael Plaid Cymru i ymuno â’r Blaid Lafur yn 1965. Ennillodd sedd fel ymgeisydd Llafur Sir Aberteifi yn 1966 a bu’n Is-Ysgrifennydd yn y Swyddfa Gartref o 1968 i 1970. Collodd ei sedd i’r Rhyddfrydwr Geraint Howells yn Etholiad Cyffredinol Chwefror 1974.


 


Yn 1981 cafodd Elystan Morgan ei wneud yn Arglwydd gan ymuno â Thŷ’r Arglwyddi. Pennodwyd ef yn Lywydd ar Brifysgol Cymru, Aberystwyth o 1997 i 2007.


 


 Yn ôl John Graham Jones, Pennaeth yr Archif Wleidyddol Gymreig:


 


'Roedd yr Arglwydd Elystan-Morgan yn bendant yn un o wleidyddion galluocaf, disgleiriaf a mwyaf blaenllaw'r ugeinfed ganrif yng Nghymru, o fewn Plaid Cymru hyd at 1965 ac yna’r Blaid Lafur fel ei gilydd. Roedd ganddo ddawn arbennig fel areithiwr cyhoeddus campus a gweinyddwr. Bu hefyd yn flaenllaw iawn yn ystod ymgyrch pleidlais datganoli 1979 ac o fewn Tŷ'r Arglwyddi byth ers 1981.  Pleser arbennig yw ei wahodd i'r Llyfrgell Genedlaethol i draddodi Darlith Flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig yn 2008'.


 


Os hoffech wybod rhagor am yr Archif Wleidyddol mae croeso i chi fwrw golwg dros fersiwn ddiweddaraf cylchlyth yr Archif Wleidyddol Gymreig sydd bellach ar gael arlein.


 


 


Darlith Flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig


Gwener 7 Tachwedd 17.30y.h.


‘Ambell atgof Gwleidyddol’

Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
  (nid yn yr Hen Goleg fel mewn blynyddoedd blaenorol)


 


Mynediad am ddim drwy docyn


Tocynnau: 01970 632 548 neu gallwch archebu eich tocyn arlein





Sefydlwyd yr Archif Wleidyddol Gymreig yn 1983. Mae’n casglu llenyddiaeth gan holl bleidiau gwleidyddol Cymru a grwpiau ymgyrchu yn ogystal â gohebiaeth gan rai o’r ffigyrau gwleidyddol mwyaf o David Lloyd George ymlaen.


 


 


Gwybodaeth Bellach


 


Medi Jones-Jackson, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 534 llinosmedi.jones@llgc.org.uk


 


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012