Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Dathlu bywyd a gwaith un o ffotograffwyr mawr y byd

Mon, 06 Oct 08 11:46:00

 


Mae'r Llyfrgell Genedlaethol ar y cyd gyda Y Lolfa newydd ryddhau'r gyfrol Hen Ffordd Gymreig o Fyw sef casgliad sylweddol o luniau ffotograffydd Cymreig pwysicaf oes Fictoria – John Thomas. Fe'i disgrifir fel “un o ffotograffwyr mawr y byd” gan awdur llyfr newydd a phennaeth Gofal Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Iwan Meical.


 


Cymro o Gellan, Ceredigion oedd John Thomas, a bu'n tynnu lluniau ar hyd a lled Cymru yn ystod ail hanner y 19eg ganrif, ar ôl dechrau trwy wahodd nifer o bregethwyr adnabyddus i eistedd iddo. Bu'r fenter yn llwyddiant ac erbyn 1867 roedd yn ddigon hyderus i gychwyn ei fusnes ffotograffig ei hun, 'The Cambrian Gallery'. Parhaodd â'r gwaith am yn agos i 40 mlynedd gan deithio drwy'r rhan fwyaf o Gymru yn tynnu lluniau o olygfeydd yn ogystal â phobl. Wedi iddo roi'r gorau i'w fusnes prynwyd casgliad o dros 3000 o'i negyddion gorau gan O M Edwards ar gyfer darlunio'r cylchgrawn Cymru. Yr oedd John Thomas wedi cydweithio gydag OM ers blynyddoedd trwy ddarparu lluniau ac ysgrifennu erthyglau ar gyfer Cymru. Erbyn heddiw y mae'r negyddion a brynwyd gan O M Edwards yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru.


 


Yn ôl yr awdur, “Yng ngwaith John Thomas mae gennym gofnod sydd yn bersonol, yn emosiynol ac yn llawn bywyd. Nid yn unig y mae'n ffotograffydd Cymreig o bwys, ond y mae'n un o ffotograffwyr mwya'r byd.”


 


Cyfrol ddwyieithog am fywyd a gwaith John Thomas yw Hen Ffordd Gymreig o Fyw / A Welsh Way of Life. Dyma'r unig gyfrol lle ceir casgliad sylweddol o'i ffotograffau gyda'i gilydd. Mae 130 o luniau ynddi, yn darlunio teithiau John Thomas o gwmpas Cymru yn ystod ei oes.


 


Meddai Iwan Meical: “Mae ei waith yn annatod gysylltiedig â Chymru'r cyfnod hwnnw, pryd y gwelwyd newidiadau chwyldroadol yn y wlad… ac mewn oes pan oedd pawb yn galw am bortreadau oedd yn eu dangos fel pobl barchus, roedd John Thomas yn eithriad oherwydd ei fod yn dewis tynnu lluniau gweithwyr cyffredin, a hyd yn oed gardotwyr a phobl feddw.”

Trwy ei luniau o'r ffeiriau a'r porthladdoedd, yn ogystal â'r capeli a'r golygfeydd, ceir golwg newydd, arloesol ar Gymru a Chymry'r cyfnod.


 


Am ragor o wybodaeth cysylltwch â siop y Llyfrgell ar 01970 632 548

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012