Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Leonardo da Vinci yn ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol

Thu, 09 Oct 08 10:12:00

 


Bydd arddangosfa arbennig o luniadau gan Leonardo da Vinci, nas gwelwyd erioed o’r blaen yng Nghymru, yn agor yr hydref hwn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae deg o luniadau gan yr arlunydd wedi’u benthyca o’r Casgliad Brenhinol at ddibenion arddangos, fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Ei Fawrhydi Tywysog Cymru yn 60 oed. Cynhelir yr arddangosfeydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, o 8 Tachwedd hyd at 7 Chwefror 2009.


 


Mae’r Llyfrgell yn un o 4 oriel yn unig yn y DU i arddangos gweithiau’r arlunydd Dadeni Eidalaidd a’r unig leoliad yng Nghymru. Denodd arddangosfa deithiol gyffelyb fwy na 82,000 o ymwelwyr i Leeds yn 2006.


 


Mae’r 10 lluniad sy’n cael eu harddangos wedi’u dethol o’r Casgliad Brenhinol a gedwir yng Nghastell Windsor. Mae’r Casgliad Brenhinol wedi’i ffurfio gan chwaeth bersonol brenhinoedd a breninesau ar hyd y 500 mlynedd ddiwethaf. Mae’r casgliad yn cynnwys paentiadau, lluniadau, a lluniau dyfrlliw, cerflunwaith, dodrefn, gwaith cerameg ac arian, arfwisgoedd, gemwaith, llyfrau, printiau, llawysgrifau a ffotograffau, y cyfan oll yn cael eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Frenhines fel Sofran i’w holynwyr a’r genedl. Mae’r casgliad hefyd yn gartref i un o'r casgliadau mwyaf godidog o hen luniadau gwreiddiol.


 


Ganwyd Leonardo da Vinci yn 1452, a daeth yn enwog am ei waith fel cerflunydd, arlunydd, pensaer, peiriannydd a gwyddonydd. Ychydig o’i gyfoedion oedd yn ymwybodol o’i ymchwil wyddonol. Ysgrifennodd nodiadau toreithiog gan fwriadu cyhoeddi sawl traethawd ond, fel llawer o’i brosiectau celfyddydol, ni chwblhawyd y rhain erioed. Felly, trwy ei luniadau yn unig y gwyddys am y rhan fwyaf o lwyddiannau Leonardo ac mae’r arddangosfa hon yn cyflwyno deg o'i astudiaethau gorau.


 


Mae’r lluniadau a fenthycir i’r Llyfrgell Genedlaethol yn cynnwys astudiaethau ar gyfer arlunwaith, cerflunwaith a phensaernïaeth. O blith y lluniadau, sy’n nodedig am eu hystod eang o dechnegau, mae astudiaeth hardd o ddynes ifanc a gwawdlun o hen ddyn gwrthun; dwy astudiaeth ragorol o benglog dynol dyranedig a dwy astudiaeth o blanhigion; lluniad o arsenal; map manwl-gywir o’r afon Arno a arolygwyd gan Leonardo ei hunan; delwedd apocalyptaidd o ddilyw; ac, yn addas iawn i Gymru, dyluniad ar gyfer gwisg draig.


 


Credir fod y lluniadau, sy’n rhan o’r Casgliad Brenhinol ers cyn 1690, wedi’u caffael yn ystod teyrnasiad Siarl II (1660-1685). Mae’r posibilrwydd o ddifrod a achosir gan olau yn golygu na ellir arddangos y gweithiau o hyd ac o hyd. Ond o ganlyniad i raglen gadwraeth a ddechreuwyd yn yr 1970au, mae detholiadau o luniadau Leonardo o’r Casgliad Brenhinol yn awr yn cael eu gweld gan filiynau o bobl mewn arddangosfeydd a gynhelir ledled y byd.  


 


Yn ôl Andrew Green, y Llyfrgellydd Cenedlaethol, “Rwyf wrth fy modd fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cael ei dewis fel un o’r lleoliadau ar gyfer yr arddangosfa bwysig hon o’r Casgliad Brenhinol. Bydd yr Arddangosfa yn gyfle i bobl Cymru ac i ymwelwyr ymhellach i ffwrdd fwynhau ystod o luniadau godidog gan un o arlunwyr mawr y byd.”


 


8 Tachwedd 2008 – 7 Chwefror 2009


Deg darlun gan Leonardo da Vinci:  Arddangosfa i Ddathlu Pen-blwydd Ei Fawrhydi Tywysog Cymru, yn drigain oed. 


 


Mynediad am ddim


 


Llyfrgell Genedlaethol Cymru


Aberystwyth


SY23 3BU


www.llgc.org.uk


 


Amserau Agor


Dydd Llun – Dydd Sadwrn 10.00-17.00


Ar gau ar y Sul a Gwyliau Cyhoeddus


Seibiant y Nadolig - Gweler gwefan y Llyfrgell am fanylion. 


 


 


Swyddfa’r Wasg


Medi Jones-Jackson


01970 632 534


llinosmedi.jones@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012