Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Gweinidog Treftadaeth Cymru i ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Wed, 19 Nov 08 11:25:00

 


Bydd Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth y Cynulliad, Alun Ffred Jones AC, yn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar yr 22ain o Dachwedd i agor arddangosfa newydd o gelf gyfoes - Mapio’r Grŵp Cymreig yn 60.


 


Mae Mapio’r Grŵp Cymreig yn 60 yn arddangosfa deithiol sylweddol sydd yn rhan o ddathliadau penblwydd y Grŵp Cymreig yn 60 a’i weithgareddau ers datganoli yn 1997. Ffurfiwyd y grŵp yn 1948-49 ac mae ei aelodaeth yn cynnwys oddeutu 40 o artistiaid cyfoes proffesiynol sydd yn gweithio mewn nifer o wahanol arddulliau a chyfryngau celf wahanol.


 


Ymysg y 97 o weithiau sydd i’w gweld yn yr arddangosfa mae darluniau gan rai o arlunwyr mwyaf adnabyddus Cymru megis William Brown, Glenys Cour, Ivor Davies, Ken Elias, Tony Goble, Clive Hicks-Jenkins, Bert Isaac, Alan Salisbury, Claudia Williams ac Ernest Zobole. Hefyd i’w gweld mae rhai cerfluniau gan Peter Bailey, Lynne Bebb, Wendy Earle, Michael Flynn, Robert Harding, Mary Husted, Dilys Jackson, Michael Organ, Antonia Spowers ac Islwyn Watkins. Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys gweithiau rhai o artistiaid mwyaf poblogaidd Cymru, Arthur Giardelli, un o aelodau sylfaenol y grŵp sydd bellach yn 97 mlwydd oed (artist hynaf y grŵp) a Mary Fogg sydd bellach yn 90 mlwydd oed, sydd hefyd yn gobeithio mynychu’r agoriad.


 


 


Bydd y Gweinidog yn agor yr arddangosfa'n swyddogol ar 22 Tachwedd am 1.30pm.


 


Yn ôl Alun Ffred Jones: 'Mae'r arddangosfa i ddathlu penblwydd y Grŵp Cymreig yn 60 oed yn arddangosfa bwysig iawn i'r celfyddydau yng Nghymru, gan ddod â gwaith artistiaid talentog, hen a newydd ynghyd. Mae'n fonws ychwanegol y bydd yr arddangosfa'n teithio o amgylch y wlad y flwyddyn nesaf, gan alluogi mwy o bobl i'w gweld. Mae diwylliant celf egniol yng Nghymru ac mae'n bwysig fod cymaint o bobl â phosib yn cael y cyfle i'w mwynhau, lle bynnag y maent yn byw, beth bynnag eu cefndir.'


 


Curadur yr arddangosfa i'w Dr Ceri Thomas, curadur rhan-amser casgliad celf Prifysgol Morgannwg ac mae ef hefyd yn aelod o’r grŵp. Mae’r arddangosfa'n cynnwys gweithiau wedi eu dewis yn arbennig o weithiau cyn-aelodau ac aelodau presennol y grŵp ar y themâu canlynol:


 

  • Tir / Môr
  • Cof / Myth / Lle
  • Corff / Meddwl / Ffurf / Symbol
  • Natur / Bywyd llonydd / Haniaeth / Cydosodiad

 


Eglura Ceri Thomas, 'Mae'r prosiect hwn wedi cymryd 2 flynedd i'w gynllunio a 2 flynedd i'w ddwyn ynghyd. Mae'r arddangosfa deithiol a'r cyhoeddiadau dwyieithog yn cwmpasu gweithiau bron i 50 o artistiaid sy'n gweithio ar draws Cymru. Mae rhai aelodau wedi bod yn cynhyrchu gweithiau celf ers sefydlu'r grŵp ar ddiwedd yr ail ryfel byd, tra bod eraill wedi dod i'r amlwg ers datganoli.'


 


Mae cyhoeddiad darluniadol ar gael i gyd-fynd â’r arddangosfa, a bydd detholiad o weithiau ar werth.



Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru, a’r Grŵp Cymreig.


 


Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol o 8 Tachwedd 2008 - 31 Ionawr 2009, ac yn teithio i’r Academi Frenhinol Gymreig yng Nghonwy (14 Chwefror - 15 Mawrth 2009) ac Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yng Nghasnewydd (18 Ebrill - 13 Mehefin 2009).


 


 


Mapio’r Grŵp Cymreig yn 60


Llyfrgell Genedlaethol Cymru


Aberystwyth


8 Tachwedd - 31 Ionawr 2009


 


Mynediad am ddim


Siop a chaffi ar gael yn y Llyfrgell


 


Cofiwch – Sgwrs Oriel am ddim gan Ceri Thomas ar ddydd Sadwrn 24 Ionawr 2009


 



Swyddfa’r Wasg


Medi Jones-Jackson Medi.jones-jackson@llgc.org.uk 01970 632 534

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012