Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Enghraifft brin o lawysgrif o’r 12fed ganrif i’w gweld arlein

Thu, 27 Nov 08 11:44:00

 


Mae enghraifft brin o lawysgrif Lladin (De Natura Rerum) o’r 12fed ganrif y credir iddi darddu o Gymru, wedi ei digido a bellach i’w gweld arlein ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol.


 


Mae De Natura Rerum yn draethawd gwyddonol gan y diwinydd, athronydd a hanesydd o Northumbria Beda (673-735). Treuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd ym mynachlogydd Wearmouth a Jarrow lle cafodd ei ddylanwadu gan y diwylliant Cristnogol newydd a grymus yn Lloegr. Ordeiniwyd Beda yn ddiacon yn 692 ac yn offeiriad yn 703. Mae ei waith ysgolheigaidd yn dangos fod ganddo fynediad i lawr o weithiau ysgolheigaidd ei oes. Tybiai rhai bod Llyfrgell mynachlogydd Wearmouth-Jarrow yn dal oddeutu 300-500 o lyfrau, a oedd yn ei gwneud yn un o lyfrgelloedd mwyaf Lloegr yn y cyfnod.


 


Ysgrifennodd lawer o destunau diwinyddol, hanesyddol a gwyddonol gan gynnwys yr 'Historia ecclesiastica gentis Anglorum' (‘Hanes Eglwysig y Saeson’) sy’n cyflwyno hanes Lloegr o amser Iŵl Cesar hyd at 731, ac a enillodd iddo’r teitl ‘tad hanes Lloegr’. Yn fuan ar ôl ei farwolaeth daeth yn adnabyddus fel Beda Ddoeth a gellir dod o hyd i’w feddrod yng Nghadeirlan Durham. Yn ei eiriau ei hun dywedodd Beda ei fod wedi treulio ei holl fywyd yn y fynachlog, gan ymroi ei hun i astudiaeth o'r ysgrythurau. Cadarnhawyd pwysigrwydd Beda i Gatholigiaeth yn 1899 pan gyhoeddwyd ef yn 'St Bede the Venerable'.


 


Oherwydd ei gredoau crefyddol, roedd gan Beda ddiddordeb mawr yn y byd naturiol fel creadigaeth Duw, ac mae ei draethawd gwyddonol ffurfiol ar ffenomenau naturiol, y De natura rerum, yn wyddoniadur o’r gwyddorau fel y’u dehonglwyd yr adeg hynny.


 


Mae’r llawysgrif, sydd wedi ei ysgrifennu ar femrwn, yn enghraifft o ysgrifennu cain y Canol Oesoedd gyda nifer o lythrennau Lladin wedi ei haddurno ar ochrau’r tudalennau.


 


Meddai Andrew Green, Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru 'Roedd Beda yn un o ddynion mawr hanes cynnar Lloegr. Mae ei waith yn taflu goleuni ar gyfnod amwys iawn yn hanes Lloegr ac yn wir Ewrop. Rwy'n credu y byddai gwen fach ar wyneb Beda petai'n gwybod fod llyfrgell genedlaethol y Cymry wedi copio ei lawysgrif a'i roi ar gyfrwng i'r holl fyd ei ddarllen,' 


 


 


Ymddangosodd De natura rerum yn Llyfrgell breifat, ystad Hengwrt, Dolgellau, yn yr 17eg ganrif cyn ei roi i gasgliad y Llyfrgell yn yr 1920au.


 


Dwedodd Medi Jones-Jackson, llefarydd ar ran y Llyfrgell 'Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn un o lyfrgelloedd mawr y byd ac yn arwain y ffordd wrth ddigido eitemau o'r casgliad fel bod pawb o bob cwr o’r byd sydd â mynediad i’r we hefyd â mynediad i drysorau’r Llyfrgell.'


 


Cymerwch gip olwg ar y llawysgrif 'De Natura Rerum' arlein


 


Swyddfa’r Wasg


Medi Jones-Jackson


medi.jones-jackson@llgc.org.uk


01970 632 534

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012