Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Darllenathon - 12 Awr o Ddarllen Di-Dor!

Fri, 23 Feb 07 17:38:00



Fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr, bydd staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru (a rhai o'i darllenwyr mwyaf selog) yn cynnal Darllenathon ar ddydd Llun 26 Chwefror.

Gan ddechrau am 8.00 y bore a gorffen am 8.00 y nos bydd y sesiwn 12 awr ddi-dor yn cynnwys darlleniadau o'r drysorfa o lyfrau a deunydd print sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yn ogystal â darlleniadau yn y Gymraeg a'r Saesneg, ceir y cyfle i wrando ar ddarlleniadau yn rhai o'r ieithoedd eraill a siaredir gan staff y Llyfrgell, gan gynnwys Ffrangeg, Almaeneg, Africaans, Tsieinëeg a Gwyddeleg.

Cynhelir y Darllen Di-dor yn awditoriwm y Drwm a bydd croeso i aelodau'r cyhoedd daro i mewn i fwynhau'r darlleniadau. Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o gasgliadau'r Llyfrgell bydd y Darllen Di-dor yn casglu arian a llyfrau ar gyfer elusen Book Aid International.

Trefnir y digwyddiad gan Gymdeithas Staff y Llyfrgell ac mae'n rhan o ddathliadau canmlwyddiant y Llyfrgell - sefydlwyd y Llyfrgell ar 19 Mawrth 1907.

'Mae'r Llyfrgell yn cynnwys bron i 5 miliwn o lyfrau - mae pob diwrnod yn Ddiwrnod y Llyfr i ni mewn gwirionedd felly. Ond penderfynwyd eleni am y tro cyntaf i gynnal Darllenathon. Edrychwn ymlaen at groesawu aelodau o'r cyhoedd i'r digwyddiad - bydd hi'n ddiwrnod arbennig i bawb sy'n hoff o lyfrau o bob math!' esboniodd Ceri Skinner, Ysgrifennydd y Gymdeithas Staff.

Gwybodaeth Bellach: Siôn Jobbins, Swyddfa'r Wasg LlGC: 01970 632902 sij@llgc.org.uk

AMSERLEN Y DARLLEN DI-DOR

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012