Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Prynu portread o Ryan Giggs O.B.E.

Wed, 10 Dec 08 12:23:00

 Ryan Giggs © Peter Edwards


Ar 10 Rhagfyr 2008 derbyniodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru bortread olew o Ryan Giggs a brynwyd wrth yr arlunydd, Peter Edwards.


 


Mae Ryan Giggs yn un o bêl-droedwyr disgleiriaf ei ddydd, ac yn sicr y Cymro enwocaf a mwyaf talentog i wisgo’r crys coch ers John Charles. Mae wedi ennill ugeiniau o fedalau dros gyfnod hir yn rhengoedd Manchester United, a bu hefyd yn gapten tîm pêl-droed Cymru, gan ennill 64 o gapiau dros ei wlad.


 


Peintiwyd y portread yn 2007 ac mae’n dangos Giggs y dyn yn hytrach na’r chwaraewr ar y maes. Dyma bortread o berson penderfynol sy’n berchen ar garisma arbennig.


 


Mae Peter Edwards yn enwog am ei bortreadau o ffigyrau iconig fel Seamus Heaney, Sir Bobby Charlton (Casgliad National Portrait Gallery) a Sir Kyffin Williams (MoMa Cymru, Machynlleth). 


 


Gwefan Peter Edwards


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012