Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Delweddau Coeth o Stori’r Geni ar wefan y Llyfrgell

Tue, 16 Dec 08 15:24:00

 Llyfr Oriau De Grey


Yng nghanol holl firi masnachol y Nadolig eleni beth am fwynhau golygfeydd ysblennydd o’r Geni yn llawysgrif Ganoloesol De Grey ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol?


 


Mae delweddau addurniadol Llyfr Oriau De Grey yn cynnwys lluniau o hanes enwog y Geni gan gynnwys y baban Iesu yn y preseb gyda’r Forwyn Fair a Joseff, y Tri Gŵr Doeth yn cyrraedd gyda’u anrhegion a’r angel Gabriel yn cyhoeddi’r newyddion da am eni Crist i'r Bugeiliaid. Mae delweddau’r llawysgrif hefyd yn cynnwys lluniau o ail hanner stori’r geni sef y ffoi i’r Aifft a gorchymyn y Brenin Herod i ladd babanod diniwed.


 


Ar sail y niferoedd sydd wedi goroesi, gellir honni mai Llyfrau Oriau oedd llawysgrifau mwyaf poblogaidd Gorllewin Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol a'r Dadeni. Diogelwyd enghreifftiau hynod addurnedig a choeth ar y naill law, ac eraill nad ydynt ond testunau moelion heb arlliw o addurn ar eu cyfyl ar y llall. Trwy gyfrwng Llyfrau Oriau, gallai lleygwyr defosiynol trwy Orllewin Ewrop ddilyn patrwm o addoli yn eu cartrefi yn seiliedig ar wasanaethau dyddiol yr eglwys, sef Plygain, Lauds, Prime, Terce, Sext, Noe, Gosber a Chwmplin. Ond, â chynifer o'r Llyfrau yn weithiau addurnol, daethant hefyd yn symbolau poblogaidd o gyfoeth a statws ymysg haenau uchaf cymdeithas yn ystod rhan olaf yr Oesoedd Canol.



Mae Llyfr Oriau De Grey y Llyfrgell Genedlaethol yn enghraifft addurniadol dros ben - gyda delweddau lliwgar drwy gydol y llawysgrif, ac aur wedi ei ddefnyddio i bigo allan uchafbwyntiau’r delweddau, yn dangos fod y llyfr yn eiddo i deulu cyfoethog iawn.


 


Credir i’r llawysgrif ddeillio o gasgliad teulu De Grey o ardal Rhuthun tua’r 16eg ganrif. Dyma’r teulu y bu i’w gelyniaeth at Owain Glyndŵr arwain at wrthryfel.  


 


Yn ôl Andrew Green y Llyfrgellydd Cenedlaethol, “Mae Llyfr Oriau De Grey yn enghraifft wych o gasgliadau’r Llyfrgell sy’n rhan o ddiwylliant Ewropeaid ar ei mwyaf coeth. Gellid dychmygu tra fo pobl ein hoes ni yn dysgu am stori’r geni drwy’r teledu neu’r we'r Nadolig hwn, 500 mlynedd yn ôl, llyfrau hardd a lliwgar fel llawysgrif De Grey oedd yr adloniant a’r cyfrwng.”


 


Llyfr Oriau De Grey


 


 


Swyddfa'r Wasg


Medi Jones-Jackson


medi.jones-jackson@llgc.org.uk


01970 632 534

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012