Fri, 06 Feb 09 13:19:00
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi lansio datrysiad chwilio newydd ar gyfer yr adnoddau electronig y mae’n tanysgrifio iddynt.
Mae Adnoddau Allanol yn cynnig ffordd syml a sydyn o chwilio ar draws adnoddau sy’n amrywio o bapurau newydd y 18fed ganrif i e-lyfrau yr 21ain ganrif. Bydd hynny nid yn unig yn gwneud chwilio yn haws ond hefyd yn annog defnyddwyr i bori adnoddau nad oeddynt wedi eu hystyried yn berthnasol ar yr olwg gyntaf.
Mae’r rhan fwyaf o’r adnoddau hyn ar gael drwy Athens i unrhyw un sydd â thocyn darllen ac sy’n byw yng Nghymru. I gofrestri am docyn a chael mynediad i’r adnoddau hyn ymwelwch â’n gwefan www.llgc.org.uk
Mae Adnoddau Allanol yn cael ei yrru gan Webfeat, sy’n cynnig ffyrdd newydd o chwilio adnoddau. Am fwy o wybodaeth am Webfeat ymwelwch â www.webfeat.org