Fri, 09 Jan 09 09:42:00
Ar hyn o bryd, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal arddangosfa deithiol o 10 o luniadau gan Leonardo da Vinci o’r Casgliad Brenhinol, Windsor. Fodd bynnag, wrth archwilio archif y Llyfrgell ei hun, gwelir nad dyma ymweliad cyntaf y Meistr Eidalaidd â thref Aberystwyth yng Ngorllewin Cymru - daeth y gweithiau i Aberystwyth am y tro cyntaf 70 mlynedd yn ôl pan symudwyd hwy ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd.
Mae hanes y symud yn dechrau yn 1933 pan gafodd cyfarwyddwyr yr holl brif sefydliadau diwylliannol, amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac orielau celf eu galw ynghyd gan y Gwir Anrhydeddus W.A.Ormsby-Gore (Arglwydd Harlech yn ddiweddarach) yn ei rôl fel Comisiynydd Gwaith yn Llywodraeth Stanley Baldwin, i ystyried cynllun i storio’u casgliadau mwyaf gwerthfawr yn ddiogel, pe digwyddai rhyfel yn Ewrop.
Llai na 3 mis yn ddiweddarach ar y 19eg Ionawr 1934 ysgrifennodd Ysgrifennydd yr Amgueddfa Brydeinig y pryd hwnnw, Dr Arundell Esdaile, at Lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan ofyn a fyddai’r Llyfrgell “yn barod unwaith eto i gynnig y lletygarwch a gafwyd yn ystod Rhyfel 1914-1918”.
Yr Amgueddfa Brydeinig oedd y cyntaf o sawl sefydliad diwylliannol i ddewis Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel eu cadwrfa gwarchodaeth pe digwyddai rhyfel ar y cyfandir. Hyd yn oed cyn cytundeb Munich ym mis Medi1938 ymgeisiodd 10 sefydliad arall am warchodfa yn y Llyfrgell - yn eu plith y Casgliad Brenhinol, Yr Oriel Genedlaethol, Coleg Corpus Christi Caergrawnt a Chymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.
O fewn oriau i gyhoeddi’r rhyfel yn 1939, rhoddwyd casgliadau nifer o sefydliadau diwylliannol Prydain mewn cewyll a’u cludo ar y trên i Aberystwyth. Roedd angen 25 o gynhwysyddion ar gasgliadau’r Amgueddfa Brydeinig a’r deunydd yn pwyso mwy na 90 tunnell. Bu’n rhaid cludo llawer o’r eitemau heb eu fframiau a’r gwydr i arbed gofod a phwysau
Yn gwmni i Leonardo da Vinci yr oedd y Beiblau Groegaidd nodedig, y Codex Sinaiticus a’r Codex Alexandrinus, y Croniclau Sacsonaidd, gweithiau Wycliffe a Chaucer; a chasgliad helaeth o Siarteri gan gynnwys y Magna Carta. O’r stôr gyfoethog o lythyrau mewn llawysgrifen ac yn ogystal â llythyrau Brenhinoedd a Breninesau Lloegr, roedd enghreifftiau gan Wolsey, Cranmer, Raleigh, Drake, Bacon, Cromwell, Memorandwm Trafalgar Nelson a Chyfnodolion Antartig Scott. Roedd y dogfennau llenyddol yn cynnwys llofnodion a holograffau Shakespeare, Spenser, Bacon, Milton, Dryden a llawer o awduron eraill, yn ogystal â cherddorion, arlunwyr ac enwogion mewn meysydd eraill o weithgaredd dynol.
Cafodd llyfrau prin hefyd gartref yn Aberystwyth gan gynnwys y Fersiynau Awdurdodedig, Ffolios a Chwartos Shakespeare, Paradise Lost a Pilgrim’s Progress. Ymhlith yr artistiaid yr oedd y Cyd-eidalwyr Michelangelo, Raphael, del Pimbo ac artistiaid Saesneg eraill gan gynnwys Blake, Girtin, Cotman, Cox a Turner.
Un o agweddau mwyaf hynod y symud oedd penderfyniad y Llyfrgell i adeiladu ogof danddaearol i roi cartref i gyfran o’r deunydd a gludwyd. Yn ystod y rhyfel, hedfanai awyrennau rhyfel y gelyn dros Aberystwyth ar eu taith i Lerpwl, Abertawe a Manceinion. Nid oedd Aberystwyth yn darged o bwys strategol, mewn gwirionedd roedd safle amlwg y Llyfrgell ar y bryn yn cynnig ei hun fel y cyfrwng llywio perffaith ond roedd y posibilrwydd y byddai bomiau crwydr yn cael eu gollwng gan awyrennau a erlidiwyd o ganolfannau diwydiannol Dwyrain Lloegr neu Dde Cymru yn fygythiad beunydd beunos.
Penderfynwyd mai’r amddiffyniad priodol rhag y bomio o’r awyr fyddai encilio dan ddaear. Adeiladwyd storfa danddaearol i mewn i ochr y graig ar fryn Grogythan rhyw ganllath neu fwy o adeilad y Llyfrgell. Adeiladwyd yr ogof gyda systemau awyru a gwresogi arbenigol i ddiogelu’r eitemau gwerthfawr a osodwyd ynddi a sicrhau bod lefelau’r lleithder a gwres yn cael eu cadw ar eu mwyaf effeithiol ar gyfer gwarchod y deunydd gwerthfawr. Erbyn mis Awst 1940 roedd y broses o symud y deunydd pwysicaf i’r twnnel wedi’i chwblhau.
Mae’r ogof yn dal i fodoli heddiw - er nis defnyddir bellach i gadw unrhyw ddeunydd na chasgliad o eiddo’r Llyfrgell. Mae Delwyn Tibbot, mab Gildas Tibbot a oedd yn Ddirprwy Lyfrgellydd yn ystod blynyddoedd y rhyfel yn cofio: “bob nos byddai fy nhad, plismon ac aelod o staff yr Amgueddfa Brydeinig yn mynd lawr i’r twnnel i wneud yn siŵr bod popeth yn ei le fel y dylai fod”.
Ond nid y gweithiau’n unig a gafodd eu hadleoli a’u symud i Aberystwyth yn ystod 1939-1945. Roedd aelodau o staff ac arbenigwyr diwylliannol y sefydliadau hefyd yn cyd-deithio â’u casgliadau i arfordir Ceredigion, rhai ohonynt yn lletya yn y dref tra bod eraill yn byw dros dro yn adeilad y Llyfrgell gan weithio rota diogelwch i sicrhau na fyddai’r casgliadau fyth yn cael eu gadael heb eu gwarchod. Parhaodd y gwaith bob dydd megis catalogio’r casgliadau trwy gydol y Rhyfel. Dyma gyfieithiad o eiriau Jacob Leveen, Dirprwy Geidwad Adran Llyfrau Printiedig a Llawysgrifau Dwyreiniol yr Amgueddfa Brydeinig, a ddaeth gyda chasgliadau’r Amgueddfa i Aberystwyth, “ Roedd Ffagl Dysg ymhell o fod wedi’i diffodd yn Aberystwyth”. Aeth yn ei flaen gan nodi, “ bu’n bleser gweithio dan amodau mor rhagorol yn un o Lyfrgelloedd dynodedig hyfrytaf ei lleoliad yn y byd.... mae’n hyfryd cofio’r cytgord a’r ewyllys da a fodolai rhwng staff yr Amgueddfa Brydeinig a’u cymheiriaid yn y Llyfrgell Genedlaethol.”
Bu’n fraint fawr i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, a hithau ond yn sefydliad cymharol ifanc ar y pryd, bod llawer o’r sefydliadau Prydeinig hŷn wedi dewis yr adeilad hwn fel eu cartref diogel yn eu cyfyng-gyngor. Byddai colli neu ddistrywio llawer o eitemau unigryw wedi bod yn ergyd nid yn unig i’w perchnogion ond hefyd i wareiddiad yn gyffredinol. Gwerthfawrogwyd y ddarpariaeth a gynigiwyd gan y Llyfrgell yn fawr gan awdurdodau’r sefydliadau dan sylw. Cyflwynodd Mr A E Popham, Ceidwad Printiadau a Lluniadau yn yr Amgueddfa Brydeinig ei gyfrol The Drawings of Leonardo da Vinci i Lyfrgellydd a Staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Erbyn mis Mai 1946 cafodd yr holl ddeunydd a gadwyd yn y Llyfrgell yn ystod y rhyfel eu ddychwelyd ar y trên i’w sefydliadau cyfunol a bu ogof y Llyfrgell yn wag ers hynny.
Yn ôl Jacob Leveen, yr Amgueddfa Brydeinig, “Ar ôl arhosiad mor hir yn Aberystwyth… roedd adeg y gwahanu yn brofiad trist. Bydd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru le cynnes am amser maith yng nghalonnau ac atgofion y Saeson a dderbyniodd gymaint o garedigrwydd a chroeso gan eu cydweithwyr a’u cyfeillion Celtaidd”.
Yn ôl Syr William Llywelyn Davies, Llyfrgellydd adeg rhyfel y Llyfrgell, roedd darparu cartref diogel ar awr gyfyng Prydain “yn ffurf ar Wasanaeth Cenedlaethol a fu’n fraint i’w ddarparu ym mlynyddoedd yr argyfwng trwy ofalu am a diogelu rhai o drysorau artistig a diwylliannol Prydain”
Deg Lluniad gan Leonardo da Vinci
8 Tachwedd 2008 – 7 Chwefror 2009
Deg Lluniad gan Leonardo da Vinci: Arddangosfa i Ddathlu Pen blwydd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, yn 60 oed
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
Nodiadau
24 Ion 2009 11:00
Symudiadau’r Meddwl: Lluniadau Leonardo ar gyfer y Swper Olaf
Darlith a gyflwynir gan Simon Pierse (Prifysgol Aberystwyth)
Swyddfa'r Wasg
Medi Jones-Jackson
01970 632 534