Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Diwrnod Agored Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2009

Mon, 12 Jan 09 14:05:00

 


Eleni eto fe fydd y Llyfrgell Genedlaethol yn agor ei drysau led y pen i wahodd pawb i ymuno yn ein Diwrnod Agored blynyddol ar ddydd Sadwrn 24 Ionawr. Mae’r diwrnod, sydd yn cynnwys darlithoedd, cyflwyniadau, teithiau tywys a sgyrsiau oriel, wedi profi’n hynod o lwyddiannus yn y gorffennol - ac ni fydd eleni’n eithriad.


 


Cynhelir nifer o weithgareddau trwy gydol y diwrnod a fydd yn sicr yn apelio at oedolion ac ymwelwyr ifanc. Ymysg y digwyddiadau ceir nifer o deithiau tywys o adrannau’r Llyfrgell. Bydd y teithiau tywys yn ymweld ag Uned Gadwriaethol Ataliol, sydd yn sicrhau fod casgliadau’r Llyfrgell yn cael eu diogelu i safonau uchel ac Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, sydd yn gartref i dros 9 miliwn troedfedd o ffilm.


 


Bydd hefyd nifer o ddarlithoedd a chyflwyniadau gan gynnwys:


 

  • Adnoddau Hanes Teulu yn y Llyfrgell Genedlaethol dan ofal Beryl Evans;
  • Motions of the Mind: Leonardo’s drawings for the Last Supper; darlith gan Simon Pierse
  • Holy Wells of Wales - A Photographic Journey sgwrs am y llyfr gan yr awdur Phil Cope
  • Mapio’r Grŵp Cymreig yn 60 gan guradur yr arddangosfa Dr Ceri Thomas
  • Gweithdy Gelf i blant dan ofal yr artist Blue MacAskill. Mae’r gweithdy yn rhedeg drwy’r dydd, felly gallwch adael eich plant mewn dwylo diogel a chreadigol, wrth ichi fwynhau digwyddiadau eraill y diwrnod

 


Ceir nifer o ddigwyddiadau pellach yn ystod y diwrnod gan gynnwys Gweithdy Cadwraeth - cyfle i weld a sgwrsio gydag aelod o staff Uned Gadwraeth y Llyfrgell. Ceir hefyd ddangosiadau yn Siop y Llyfrgell o waith Strata Stained Glass Studio - arbennigwyr mewn gwydr lliw a Gwynedd Confectioners - i bawb sydd â dant melys.


 


Mae pob un o’r digwyddiadau’n rhad ac am ddim. Mae llefydd yn gyfyng, felly mae’n angenrheidiol eich bod yn archebu tocynnau: www.llgc.org.uk/drwm  01970 632 548


 


Edrychwn ymlaen at eich croesawu!


 


Manylion pellach


Cyril Evans


cyril.evans@llgc.org.uk


01970 632 565


 


Swyddfa'r Wasg


Medi Jones-Jackson


medi.jones-jackson@llgc.org.uk


01970 632 534

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012