Fri, 06 Mar 09 17:37:00
Bydd y cerflunydd poblogaidd John Meirion Morris yn meddiannu Oriel Gregynog rhwng 28 Chwefror a 29 Mai 2009 ar gyfer arddangosfa adolygol o’i waith. Hwn fydd y tro cyntaf i’r oriel, y gofod arddangos unigol mwyaf yng Nghymru, gael ei neilltuo’n gyfan gwbl ar gyfer gwaith un cerflunydd.
Cafodd John Meirion Morris ei eni a’i fagu yn Llanuwchllyn, ger Y Bala, a daeth yn gerflunydd proffesiynol yn 1995 ar ôl gweithio fel darlithydd mewn prifysgolion yn Lloegr, Gana a Chymru am bron i 30 mlynedd.
Yn 1989 enillodd radd M.Phil. ym Mhrifysgol Bangor, yn dilyn gwaith ymchwil i gelfyddyd Geltaidd. Mae mytholeg y Celtiaid, a’r Mabinogi yn arbennig, yn ddylanwad sylfaeno ar ei waith ac mae cerfluniau yn yr arddangosfa yn cynnwys gwaith dan y teitlau Lleu, Blodeuwedd a Rhiannon. Yn 2003 cyhoeddodd lyfr, Y Weledigaeth Geltaidd, yn seiliedig ar ei waith ymchwil.
Bydd yr arddangosfa hefyd yn rhoi lle amlwg i waith mwyaf adnabyddus John Meirion Morris, sef cofeb Tryweryn. Bwriedir i’r gofeb gael ei chodi ar lan Llyn Celyn, ar ffurf aderyn dŵr symbolaidd, anferth gyda chôr yn lleisio eu protest o dan gysgod ei adenydd. Dywedodd John Meirion Morris mai ymateb greddfol, angerddol i foddi cwm Celyn yw’r cerflun.
Wrth gyfeirio at gerfluniau John Meirion Morris, dywedodd Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams, ‘maent yn gyffrous - yn rhyfeddol, yn rymus, yn gain, gyda rhyw fath o rwyddineb. Maent wedi creu argraff ddofn arnaf i.’
Ynghyd â’r gwaith Celtaidd, bydd yr arddangosfa hefyd yn rhoi sylw i waith portreadu John Meirion Morris. Bydd rhai o’r wynebau cyfarwydd yn yr arddangosfa yn cynnwys y diweddar T Llew Jones a Gwenallt ynghyd â Gerallt Lloyd Owen a Gwyn Thomas.
Yn ôl Arwel Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus y Llyfrgell, ‘mae gwaith John Meirion Morris yn llawn cyffro a thensiwn a bydd yn apelio at gynulleidfa eang ac amrywiol. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn teimlo’n hynod o freintiedig am ei bod yn gallu croesawu’r arddangosfa hon gan un o artistiaid cyfoes pwysicaf Cymru.’
28 Chwefror 2009 – 29 Mai 2009
John Meirion Morris – Grymoedd
Golwg adolygol ar waith y cerflunydd poblogaidd
Sgwrs Oriel - John Meirion Morris
14 Mai 13:15 - 14:15 (Sgwrs drwy gyfrwng y Saesneg)
14 Mai 16:00 - 17:00 (Sgwrs drwy gyfrwng y Gymraeg)
Sgwrs Oriel gyda'r cerflunydd o Lanuwchlyn am ei arddangosfa gyfredol - Grymoedd.
Digwyddiad am ddim
Ar Agor
Hyd 1 Ebrill 2009: Dydd Llun – Dydd Sadwrn 10:00 – 17:00
Ar ôl 1 Ebrill 2009: Dydd Llun – Dydd Gwener 10:00 – 17:00
Ar gau ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus – gweler gwefan y Llyfrgell am fanylion.
Swyddfa'r Wasg
Medi Jones-Jackson
medi.jones-jackson@llgc.org.uk
01970 632 534