Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Cadair Eisteddfod yr Urdd - o Aber i'r Bae

Fri, 06 Mar 09 17:04:00

 


Llyfrgell Genedlaethol Cymru fydd yn cyflwyno cadair Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, Bae Caerdydd eleni. Fe gaiff y gadair ei chyflwyno i’r bardd ifanc, buddugol ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru fel rhan o seremoni y cadeirio yr Eisteddfod ym mis Mai. 


 


Arnold James, cyn athro Celf, Dylunio a Thechnoleg o Lanelli yw gwneuthurwr y gadair – y bedwaredd gadair Eisteddfodol iddo ei chreu – ac mae’r sialens o greu’r gadair eisoes ar waith.


 


“Rwy’n teimlo’n falch iawn for yr Urdd wedi gofyn i mi greu’r gadair hon eleni,” meddai Arnold James sy’n defnyddio garej ei dy yn Llanelli fel gweithdy. “Cadair Eisteddfod Powys yn yr wythdegau oedd y cyntaf i mi ei chreu, a hynny pan oeddwn i’n byw yn ardal. Ro’n i hefyd yn gyfrifol am gadair Eisteddfod yr Urdd, Wrecsam yn ’97 a chadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli yn 2000.


 


“Creu model fechan o’r gadair yw cam cyntaf y broeses greu bob tro,” medd Arnold James. “Wedi i’r Llyfrgell weld y cysyniad ac i ni ei drafod, byddaf yn mynd i’r afael â dewis coedyn addas ar gyfer y gwaith cyn cychwyn o ddifri ar y gadair ei hun.”


 


Fe gaiff y gadair ei chyflwyno i’r bardd buddugol am gerdd gaeth neu rydd heb fod dros 100 llinell ar y testun ‘Ymlaen’. Hywel Griffiths a Karen Owen sy’n beirniadau’r gystadleuaeth a’r dyddiad cau ar gyfer cystadleuwyr oedd 1 Mawrth 2009.


 


Meddai R Arwel Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus Llyfrgell Genedlaethol Cymru, “Mae'r Llyfrgell yn frwd iawn dros y gwasanaeth a gynigir ganddi i blant a phobl ifanc Cymru trwy ei Gwasanaeth Addysg a'r trysorau sydd ar gael iddynt ar lein.


 


“Rydym yn falch iawn o gael cyflwyno’r gadair i enillydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Bae Caerdydd ac o'r cyfle i gydweithio gydag Arnold James ar y cynllun."


 


Dywed Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Llyfrgell Genedlaethol am eu rhodd hael i Eisteddfod Bae Caerdydd. Mae seremoni y cadeirio yn wledd i’r llygaid bob tro ac edrychwn ymlaen at weld y gadair yn cael ei chyflwyno i’r bardd buddugol ar lwyfan Canolfan y Mileniwm ym mis Mai.”


 


Swyddfa'r Wasg


Medi Jones-Jackson


medi.jones-jackson@llgc.org.uk


01970 632 534

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012