Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Llyfr Llandaf Arlein

Tue, 08 May 07 09:26:00


Mae un o lawysgrifau eglwysig cynharaf Cymru, Llyfr Llandaf (Liber Landavensis), nawr i’w gweld ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, www.llgc.org.uk Mae’r llawysgrif sylweddol ei maint sy’n cynnwys 128 o ddalennau memrwn ac yn croniclio hanes cynnar esgobaeth Llandaf. Mae’r cynnwys yn taflu goleuni hefyd ar gyflwr a sefyllfa’r eglwys a gwleidyddiaeth eglwysig mewn un rhan o Gymru yn fuan wedi’r goncwest Normanaidd.



Tybir i Lyfr Llandaf gael ei ysgrifennu rhwng 1120 a 1140, a hynny o dan gyfarwyddyd Urban, a benodwyd yn esgob Llandaf gan frenin Lloegr ym 1107, a’i gysegru gan Archesgob Caergaint.



Cred haneswyr i’r Llyfr gael ei ysgrifennu o ganlyniad i gynnen rhwng Urban ac esgobion Tyddewi a Henffordd ynglŷn â ffiniau esgobaeth Llandaf, a hynny yn y gobaith y byddai’r cynnwys yn cryfhau hawliau’r esgobaeth honno i diroedd ac eiddo yn ne ddwyrain Cymru.



Aeth y copïwr gwreiddiol ati i gofnodi yn y gyfrol nifer helaeth o siarteri - rhai’n ddilys ac eraill yn ffugiadau diweddarach - a fanylai ar eiddo a hawliau tiriogaethol Esgobaeth Llandaf, yn seiliedig ar roddion tybiedig tros gyfnod o 700 mlynedd - rhwng y 5ed ganrif a’r 11eg ganrif. Y bwriad oedd dyrchafu statws yr esgobaeth, a chadarnhawyd hynny trwy gofnodi yn y gyfrol hefyd fucheddau (vitae) 3 o esgobion cynharaf Llandaf, sef Dyfrig (Dubricius, ?465), Teilo (?500) ac Euddogwy (Oudoceus, ?630).



Yn ystod y 12fed ganrif, ac yn gynnar yn y 13eg ganrif, ychwanegodd 8 copïwr arall fucheddau Samson ac Elgar at y testun, ynghyd â llythyrau amrywiol.



‘Llyfr Llandaf yw’r llawysgrif ddiweddaraf gan y Llyfrgell i’w rhoi ar y wefan. Ymysg y llawysgrifau eraill mae Llyfr Du Caerfyrddin, Llawygrif aml-ddiddordeb gan Gutun Owain, llythyrau o Ryfel Cartref America a Dyddiadur Smyglwr. Mae digido’r casgliadau yma’n rhan o strategaeth y Llyfrgell i ddod a’n casgliadau o fewn cyrraedd pobl Cymru a thu hwnt,’ meddai Arwel Jones.




Dolenni:



Llyfr Llandaf: www.llgc.org.uk/index.php



Drych Digidol: www.llgc.org.uk/index.php



Llyfrgell Genedlaethol: www.llgc.org.uk




Am Wybodaeth Bellach a Delweddau:



Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902  sij@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012