Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Llyfrgell Genedlaethol yn un o Chwech sefydliad i dderbyn copi o Lythyr Pennal

Tue, 31 Mar 09 13:54:00

 


Heddiw (31 Mawrth), bydd y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones yn cyflwyno copïau o Lythyr Pennal i chwe sefydliad Cymreig. 


 


Y sefydliadau hynny yw:


 

  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Eglwys San Pedr mewn Cadwynau, Pennal
  • Canolfan Owain Glyndŵr, Machynlleth
  • Prifysgol Glyndŵr
  • Amgueddfa Cymru
  • Chynulliad Cenedlaethol Cymru

 


gan sicrhau y bydd copi o Lythyr Pennal ar gael i bobl ym mhob rhan o Gymru ei weld.


 


Meddai Alun Ffred Jones 'Llythyr Pennal yw un o’r ychydig greiriau sydd wedi goroesi sy’n ymwneud â bywyd Owain Glyndŵr. Mae’n un o’n trysorau hanesyddol pennaf, ac fe ddylai fod ar gael felly i bobl o bob cwr allu’i weld a’i werthfawrogi. Pleser o’r mwyaf imi felly yw cael cyflwyno’r copïau ffacsimile o Lythyr Pennal i’r chwe sefydliad fel cydnabyddiaeth o bwysigrwydd Owain Glyndŵr yn hanes ein gwlad.'


 


Ar y diwrnod hwn, 603 o flynyddoedd yn ôl (31 Mawrth 1406), anfonodd Owain Glyndŵr lythyr, sef Llythyr Pennal fel y daethpwyd i’w adnabod, at Charles VI, Brenin Ffrainc, yn gofyn iddo am ei gymorth â’i wrthryfel yn erbyn y Saeson.  Ynddo, mae’n esbonio’r hyn y byddai’n barod i’w ildio fel tâl am gymorth y Brenin – y consesiwn mwyaf yw cydnabod Benedict XIII o Avignon yn Bab.


 


Cafodd y llythyr ei gyfansoddi yn ystod synod yr Eglwys Gymreig ym Mhennal ym 1406. Mae’n rhoi cipolwg inni o uchelgais Glyndŵr a’i weledigaeth ar gyfer Cymru newydd a hunanymreolus, gyda’i heglwys annibynnol ei hun a dwy brifysgol.


 


Mae’r llythyr gwreiddiol yn yr Archives Nationales ym Mharis ac mae’r copïau hyn wedi’u paratoi gan staff y Llyfrgell Genedlaethol o dan arweiniad Julian Thomas, Uned Triniaeth Cadwraeth. Maen nhw’n gopïau cywir o’r gwreiddiol ac wedi’u creu ar femrwn gan ddefnyddio technegau heneiddio arbenigol. Mae sêl Glyndŵr wedi’i hailgreu o fowldiau o’r gwreiddiol.


 


Y tro diwethaf y gwelwyd y Llythyr Pennal gwreiddiol yng Nghymru oedd yn 2000 yn Arddangosfa Owain Glyndŵr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.


 


Ceir mwy o hanes a chopi o destun Llythr Pennal yn y ddogfen pdf hon.


 


Swyddfa'r Wasg


Medi Jones-Jackson


01970 632 534


medi.jones-jackson@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012