Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Gorffennol Cymru am fynd arlein

Wed, 15 Apr 09 16:52:00

 


Llyfrgellydd, Gweinidog Treftadaeth a Llywydd y LlyfrgellBydd £2m yn cael ei neilltuo o’r Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol ar gyfer digideiddio 2 filiwn o dudalennau papur newydd a chylchgronau sy’n ymdrin â Chymru. Mae’r cyhoeddiadau’n dyddio’n ôl i’r 18fed ganrif, ac mae hyd at 300 o deitlau, sy’n cynnwys cylchgronau plant fel Cymru’r Plant a phapurau newydd poblogaidd fel Star of Gwent, Tarian y Gweithiwr, Herald y Rhos a Cardiff and Merthyr Guardian. Gall ddarllenwyr ddarllen adroddiadau llygaid-dyst i ddigwyddiadau mawrion Cymru fel gorymdaith y Siartwyr ar Gasnewydd, Helyntion Becca, gemau rygbi a phel-droed cynnar neu gliwiau difyr ac holl bwysig ar gyfer ymchwil hanes teulu neu leol.


 


Bydd y wefan yn creu llyfrgell addysgu ac ymchwil hawdd ei defnyddio a bydd ar gael i bob prifysgol, ysgol, coleg a chartref yng Nghymru. Bydd y wefan yn help i ddatrys problem y diffyg deunydd dysgu arlein sy’n ymdrin â diwylliant, hanes a hunaniaeth Cymru, a hwn fydd y casgliad mwyaf o ddeunydd yn y Gymraeg sydd erioed wedi cael ei gyhoeddi arlein.


 


Meddai Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth: “Mae papurau newydd a chylchgronau’n cynnig trysorfa o adroddiadau o lygad y ffynnon a gwybodaeth sydd yn aml wedi mynd yn angof, fel gwybodaeth am sut y buon ni’n byw, y bwyd y buon ni’n ei fwyta, y llyfrau y buon ni’n eu darllen a’n barn am wleidyddiaeth, crefydd a bywyd teuluol.


 


Bydd yr adnodd hwn yn rhoi cyfle unigryw i bob un ohonon ni, boed yn ddisgyblion ysgol sy’n chwilio am wybodaeth ar gyfer prosiect gwaith cartref neu yn haneswyr teulu sy’n ymchwilio i fywydau ein hynafiaid, i ddod i ddeall ein hanes cymdeithasol a diwylliannol. Bydd digideiddio’r wybodaeth hefyd yn sicrhau bod yr adnoddau gwerthfawr hyn ar gael i genedlaethau’r dyfodol, ymhell ar ôl i’r papur bregus y mae wedi’i hargraffu arno droi’n llwch.


 Rhifyn cynnar o Cymru'r Plant


Bydd Papurau Newydd a Chylchgronau Cymru Ar-lein yn rhoi hwb i statws y Llyfrgell Genedlaethol fel arloeswr digidol sy’n defnyddio’r we i wneud Cymru a’i hunaniaeth yn hysbys i bawb. Meddai Andrew Green, y Llyfrgellydd Cenedlaethol:


 


“Rydyn ni wrth ein bodd ar ôl clywed y cyhoeddiad hwn fydd yn mynd â ni gam yn nes at wireddu’n gweledigaeth uchelgeisiol i ddigideiddio holl gof printiedig Cymru, gan sicrhau bod pobl o bob rhan o Gymru ac o bedwar ban byd yn cael mwynhau’r cronfeydd o wybodaeth sydd yng nghasgliad y Llyfrgell. Trwy’r cynllun hwn, a rhai tebyg iddo sydd eisoes ar waith, rydyn ni’n ymateb i’r awydd i ddefnyddio’r dull newydd poblogaidd o dderbyn gwybodaeth - sef yn y cartref ar adeg sy’n gyfleus i’r unigolyn.  Bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar y gwaith sylweddol sydd eisoes wedi’i gwblhau gan y Llyfrgell o ran digideiddio papurau newydd.”


 


Mae disgwyl y bydd y prosiect wedi’i gwblhau ac y bydd ar gael arlein erbyn 2012. Bydd yn ychwanegu at brosiect arloesol arall sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth y Cynulliad, sef Casgliad y Bobl, sydd â’r nod o’i gwneud hi’n haws cael gafael ar y cyfoeth o ddeunydd sydd ar gael eisoes arlein.


 


Bydd y rhaglen ddigideiddio yn help mawr i ymchwilwyr proffesiynol ac amatur, yn haneswyr, yn achyddion, yn athrawon ac yn ymchwilwyr teledu.


 


Mae Ifor ap Glyn, a gafodd ei fagu yn Llundain, ac yn gynhyrchydd ac yn gyfarwyddwr gyda’r cwmni cynhyrchu Cwmni Da, yn gwneud gwaith ymchwil ar gyfer eu rhaglenni. Dyma’r cwmni sydd wedi cynhyrchu’r gyfres o fri am y Rhyfel Byd Cyntaf, Lleisiau’r Rhyfel Mawr .


 


“Mae hyn yn newyddion ardderchog! Mae gwneud gwaith ymchwil ar gyfer cyfres deledu’n cymryd tipyn o amser. Bydd yn wych cael gweld cynifer o bapurau newydd Cymru dim ond o glicio botwm, a bydd yr erfyn chwilio yn ei gwneud hi’n hawdd dod i hyd i enwau a digwyddiadau. Bydd hyn yn codi’r safonau o ran ymchwilio a chynhyrchu rhaglenni o Gymru”, meddai Ifor ap Glyn, sydd hefyd wedi cynhyrchu Cymru a’r Rhyfel Cartref am filwyr o Gymru yn Rhyfel Cartref America, a enillodd Gwobr Gwyn Alf Williams yng Ngwobrau BAFTA Cymru.       


 


 


Dolenni:


Enghrefftiau o wahanol mathau o bapurau newydd sydd eisioes wedi’u digideiddio yn rhannol gan y Llyfrgell. 


 

 


 


Nodiadau i olygyddion


Am fwy o wybodaeth, cyslltwch a:

  • Heledd Parry, Swyddfa’r Wasg Llywodraeth y Cynulliad ar 07811 332 633
  • Siôn Jobbins, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 01970 632 902 sion.jobbins@llgc.org.uk

 


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012