Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Enwebiad ar gyfer gwobr anrhydeddus i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru

Thu, 30 Apr 09 12:11:00

 


Mae Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, wedi derbyn enwebiad ar gyfer Gwobrau Focal, a fydd yn cael eu cynnal yng ngwesty’r Royal Lancaster yn Llundain ar 5 Mai. Mae’r enwebiad am y gwaith adfer ar y ffilm Memoirs of a Pit Orchestra.


 


Gwnaed y ffilm yn 1981, ac mae wedi’i chyfarwyddo gan Richard Watkins. Ceir yma gyfres o ddeialogau a golygfeydd yn defnyddio barddoniaeth Idris Davies, Harri Webb, Alun Lewis, Leslie Norris, Dannie Abse a John Davies. Gyda deunydd archif o’r ddau ryfel byd, a band o gerddorion, mae’r cyfarwyddwr yn edrych ar ei ardal enedigol, sef y de diwydiannol, wedi’i ddylanwadu gan ffyniant ac anhawsterau cyfalafiaeth imperialaidd.


 


Dywedodd John Reed, Swyddog Cadwraeth Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru –


 


“Roedd y gwaith adfer yn cynnwys gwneud negatifs newydd 16mm o’r llun, traciau sain magnetig newydd, ail-olygu a chyfamseru’r llun a’r sain, ac yna creu trac sain magnetig newydd. Yna, crëwyd negatif llun a sain newydd a’i gyfateb â’r negatifs sain i greu print sain newydd yn addas i’w ddangos.”


 


Focal yw Ffederasiwn Archifau Clyweledol Masnachol, ac mae’n gorff sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol.


 


Dywedodd Anwen Pari Jones, Swyddog Datblygu a Rheoli Mynediad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru –


 


“Mae derbyn enwebiad am wobr Focal yn lwyddiant mawr ac yn anrhydedd i’r sawl oedd ynghlwm a’r gwaith adfer. Mae adfer ffilmiau fel yr un yma, yn rhoi cyfle i genedlaethau’r dyfodol fwynhau ffilmiau gwych a fyddai fel arall ar goll am byth.”


 


 


Swyddfa'r Wasg


Medi Jones-Jackson


01970 632 534


medi.jones-jackson@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012