Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Darn o India yn y Llyfrgell Genedlaethol

Wed, 13 May 09 12:12:00

 


Wrth i 714 miliwn o bobl fwrw’u pleidlais yng ngwlad ddemocrataidd fwyaf y byd, India, mewn 828,804 o orsafoedd pleidleisio ym 15fed etholiad y wlad ers ennill annibyniaeth, datgelodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth amrywiaeth helaeth o ddeunyddiau ethnig o’r wlad nas gwyddid amdanynt ynghynt. Cymaint yw diddordeb y Llyfrgell yn yr eitemau hyn a chasgliadau rhyngwladol eraill, nes crëwyd tudalen yn arbennig ar wefan y Llyfrgell sy’n caniatáu mynediad haws atynt.


 


Gan fod y Llyfrgell yn sefydliad adnau cyfreithiol, mae ganddi’r hawl i dderbyn copi am ddim o bob llyfr a gyhoeddir yn y Deyrnas Unedig, ond mae’r Llyfrgell hefyd yn prynu llyfrau a chyhoeddiadau o wledydd eraill, megis India.


 


Mae gan y Llyfrgell nifer o ddarnau o waith mewn ieithoedd Indiadd. Bu Mr Bijon Sinha, un o ddarllenwyr ac ymchwilwyr rheolaidd y Llyfrgell, yn garedig iawn wrth gynorthwyo’r Llyfrgell i adnabod rhai o gryfderau’r casgliad hwn.


 


Ieithyddiaeth ac ieithyddiaeth gymharol yw testun y rhan helaeth o’r gweithiau yn y casgliad, gyda phwyslais ar y cysylltiadau rhwng ieithoedd Indiaidd ac Ewropeaidd a gweithiau am ieithoedd unigol, yn enwedig Sanskrit.  Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys barddoniaeth, rhyddiaith a straeon gwerin mewn Bengali a chasgliad helaeth o Ddogfennau’r Ymerodraeth Brydeinig. Mae’r rhain yn cynnwys adroddiadau am weinyddiaeth, barnwriaeth, addysg ac iechyd cyhoeddus nifer o’r taleithiau Indiaidd a oedd yn bodoli yn y cyfnod cyn annibyniaeth a chyn rhannu’r wlad yn Pakistan a Bangladesh. Er diddordeb i bobl sy’n olrhain hanes eu teuluoedd, mae’r casgliad hefyd yn cynnwys cyfrolau printiedig o Gyfrifiadau India ar gyfer 1901, 1911, 1921 a 1931.  Mae gan y Llyfrgell hefyd gasgliad rhyfeddol o lythyrau gan Clive o India, sy’n rhoi dehongliad Indiaidd cynhenid o oresgyniad Prydain ar yr is-gyfandir.


 


Yn ôl Mr Bijon Sinha, aelod o Fwrdd Ethnigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru: ‘Trysorau Tagore, perlau athronyddol a defodol Vedic …  dim ond cyfran fechan yw’r rhain o’r llu o ddeunyddiau sydd eto i’w darganfod ac ymchwilio o’r newydd. Mae casgliad helaeth y Llyfrgell Genedlaethol yn cynnwys llenyddiaeth Indiaidd, ieithoedd (hynafol a chyfoes), ieithyddiaeth, anthropoleg gymdeithasol, athroniaeth Sanskrit, hanes India ar hyd yr oesoedd a’i daearyddiaeth. Ceir deunydd yma at ddant unrhyw Indolegydd, ac yn deilwng o unrhyw lyfrgell genedlaethol gwerth ei halen!’


 


Dywedodd Mohammad Asghar AC Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru a aned yn Pashawar ym 1945, ac yr unig aelod Cynulliad sy’n perthyn i leiafrif ethnig: ‘Rwyf newydd ddychwelyd i Gymru ar ôl ymweld ag India, ac mae gennyf ddiddordeb brwd mewn dysgu am ehangder casgliad y Llyfrgell o lyfrau a dogfennau sydd a wnelo â’r wlad.


‘Mae’n syndod mawr i mi fod y perlau hyn o India ar gael i’w gweld yng Nghymru.  Yn sicr byddaf yn galw heibio’r Llyfrgell i weld y casgliad â’m llygaid fy hun y tro nesaf y dof i Aberystwyth.


 


‘Byddwn yn annog pobl eraill sy’n perthyn i leiafrifoedd ethnig ac o’r gymuned ehangach i ddod i’r Llyfrgell er mwyn gweld y casgliad bendigedig hwn.’


 


Ymhlith casgliadau eraill y Llyfrgell ceir casgliad David Hawkes - gweithiau a adneuwyd i’r Llyfrgell gan y cyn-Athro Tsieinïaidd yn Rhydychen a Sinolegydd  amlwg. Mae ei gasgliad yn cynnwys mwy na 4,500 o gyfrolau sydd a wnelo â’r iaith Tsieinïaidd a llenyddiaeth, hanes ac athroniaeth Tsieina. Ceir catalog cerdyn o’r casgliad yn ei grynswth yn y Llyfrgell. Copïwyd y catalog hwn a gellir ei weld ar ffurf PDF ar wefan y Llyfrgell.


 


Meddai Andrew Green, Llyfrgellydd, ‘Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cydweithio’n agos â nifer o grwpiau lleiafrif ethnig yng Nghymru, ac yn awyddus i ddatblygu’r elfennau hyn o gasgliadau’r Llyfrgell er mwyn rhoi darlun mor gyflawn â phosibl o Gymru gyfoes a’i diwylliant. Mae’r casgliadau rhyngwladol o India a Tsieina yn dangos bod y Llyfrgell ar flaen y gad fel canolfan ymchwil rhyngwladol.’


 


Dolenni


Casgliadau Ethnig


 


Gwybodaeth Bellach


Medi Jones-Jackson, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 534


medi.jones-jackson@llgc.org.uk


 


 


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012