Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Arbenigwr blaenllaw ar Almaen y Natsïaid i siarad yn Aberystwyth

Mon, 18 May 09 15:26:00

 Yr Athro Richard J Evans 


Fe fydd yr Athro Richard J Evans, hanesydd amlwg ac arbenigwr blaenllaw ar y cyfnod Natsïaidd yn dychwelyd i’w wreiddiau fel y siaradwr gwadd mewn darlith arbennig wedi ei threfnu gan gynllun noddwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Penodau.


 


Bydd yr Athro, a benodwyd yn ddiweddar yn Athro Regius mewn Hanes Modern ym Mhrifysgol Caergrawnt, yn traddodi darlith ar ‘Looted Art in Europe 1938-45 and its restitution since the Second World War’. Cynhelir y ddarlith yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar nos Fercher, 27 Mai am 19.30 pm.


 


Wedi ei eni yn Llundain i rieni o Gymru mae ganddo gysylltiadau teuluol cryf gydag ardal Machynlleth. Roedd teulu ei dad yn hanu o fferm fynydd ger Pantperthog, a bu ei ewythr yn rhedeg yr H J Evans Drug Store yn 25 Stryd Maengwyn, Machynlleth, am yn tynnu at 20 mlynedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
 
Ers gweithredu fel y prif dyst arbenigol yn achos enllib David Irving yn yr Uchel Lys yn Llundain yn 2000, mae gwaith yr Athro Richard J Evans wedi ymwneud yn bennaf â’r Holocost. Cyhoeddodd yn ddiweddar The Third Reich at War, 1939-1945, y drydedd gyfrol, a’r olaf mewn cyfres ar hanes yr Almaen dan y Natsïaid.

Nododd Andrew Green, y Llyfrgellydd, ’Gyda bron i 70 mlynedd ers dechrau’r Ail Ryfel Byd mae’r pwnc am ysbeilio celf yn hynod amserol. Mae talaith Califfornia yn yr Unol Daleithiau newydd ddychwelyd tri  darlun o gyfnod y Dadeni a gymrwyd oddi ar ddelwyr celf Iddewig yn yr Almaen yn 1930au, i ddisgynyddion ei cyn berchnogion. Roedd y darluniau wedi eu harddangos mewn amgueddfa yng Nghaliffornia ers dros ddeg mlynedd ar hugain.


 


Ein nod yw sicrhau fod aelodau Penodau’n cael profiadau arbennig ac yn hynny o beth rydym yn hynod falch o gefnogaeth bobl amlwg fel yr Athro Richard J
Evans. Pleser arbennig fydd ei groesawi yma i’r Llyfrgell i annerch. Mae’n argoeli i fod yn noson gofiadwy.’


 


Darlith yr Athro Richard J Evans


Mercher, 27 Mai 2009



'Looted Art in Europe 1938-45 and its restitution since the Second World War’.

19.30 Derbyniad Gwin
19.45 Darlith
 
Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mynediad trwy docyn £5.00 - am ddim i aelodau Penodau

I archebu tocyn cysylltwch â Siop y Llyfrgell  (01970) 632 548 neu arlein www.llgc.org.uk/drwm


 


Dolenni


Gwefan Yr Athro Richard J Evans


 


Am fwy o wybodaeth


Rhian Haf Evans
Swyddog Codi Arian LlGC: Digwyddiadau a chyfranwyr


01970 632 938


rhian.evans@llgc.org.uk


 


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012