Tue, 26 May 09 13:00:00

Gydag adeilad y Cynulliad wedi newid ei enw i Dŷ Hywel er cof am y brenin Hywel Dda a’i gyfreithiau, mae’n gymwys iawn fod copi o Gyfreithiau Hywel Dda i’w gweld yn Eisteddfod yr Urdd, ganllath o Dŷ Hywel, yng Nghaerdydd eleni.
Dangosir copi o Gyfreithiau Hywel ar stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Faes yr Urdd. Ceir sawl copi o’r cyfreithiau ond yr un cynharaf ac enwocaf yw llawysgrif Peniarth 28, a chopi ffacsimili o hon fydd ar y Maes. Rhoddwyd trefn ar gyfreithiau’r Cymry gan Hywel Dda yn y 10fed ganrif, ond mae’r llawysgrif arbennig yma o’r 13eg ganrif. Mae’n hynod am sawl rheswm, ond yn arbennig oherwydd y darluniau hyfryd sydd ynddi – darluniau o frenin, barnwr, hebogydd a sawl swydd arall yn llys y brenin.
Yn naturiol ddigon, bydd Llywydd y Cynulliad a’r dyn y tu ôl ail-enwi adeilad Tŷ Crughywel yn Tŷ Hywel, a hen siambr y Cynulliad yn Siambr Hywel, Dafydd Elis Thomas, yn galw draw i weld y llawysgrif ar stondin y Llyfrgell. Bydd yn cwrdd â disgyblion ysgol am 11:00 am ddydd Mercher 27 Mai ac yn trafod gwaith y Cynulliad a bywyd Hywel Dda yn ogystal â gweld llawysgrif Peniarth.
Dywedodd Owen Llywelyn, Uwch Swyddog Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
‘Mae dros fil o flynyddoedd ers i Hywel ap Cadell alw pobl ynghyd i roi trefn ar gyfreithiau Cymru, a helpu drwy hynny i ddatblygu’r syniad o genedl y Cymry. Mae’n bleser i weld y dyn sy’n goruchwylio’r broses o greu cyfraith Gymreig heddiw, Llywydd y Cynulliad, yn rhoi o’i amser i ddod i drafod ei waith gyda phobl ifanc.
‘Mae Llawysgrif Peniarth 28 sy’n cynnwys y copi cynharaf ar glawr o Gyfreithiau Hywel Dda yn un o drysorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r genedl, a bydd cyfle gan bobl i weld copi o’r llawysgrif yn Eisteddfod yr Urdd Bae Caerdydd, ergyd carreg o adeilad y Senedd.’
Mae’r llawysgrif mewn Lladin sy’n awgrymu mai ar gyfer rhywun o’r Eglwys y cafodd ei chopïo, ac mae’r ffaith ei bod yn cynnwys cymaint o luniau’n awgrymu ei bod wedi ei chreu ar gyfer rhywun pwysig. Mae arbenigwyr yn credu i'r llawysgrif gael ei chreu yn ystod y 13eg ganrif, ac mae tystiolaeth iddi fod yn Abaty Awstin Sant, Caergaint, erbyn dechrau'r 14eg ganrif. Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd y llawysgrif ym Mheniarth, Meirionnydd. Prynwyd casgliad Peniarth yn 1904 ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan y cymwynaswr a'r casglwr Syr John Williams, llywydd cyntaf y Llyfrgell.
Tua’r flwyddyn 945 galwodd Hywel ap Cadell (Hywel Dda) bobl o bob rhan o Gymru ynghyd i’r Tŷ Gwyn ar Daf yn Nyfed i gasglu, diwygio a threfnu cyfreithiau yng Nghymru. Yn y cyfarfod hwn cytunwyd ar drefn gyfreithiol ar gyfer Cymru sydd yn cael ei galw’n Gyfreithiau Hywel Dda.
Cyfreithiau Hywel Dda oedd cyfreithiau Cymru am ganrifoedd. Pan laddwyd Llywelyn Ein Llyw Olaf yn 1282 concrwyd Cymru gan Frenin Lloegr, Edwart I. Pasiodd brenin Lloegr gyfraith newydd, Statud Rhuddlan, oedd yn lleihau pwysigrwydd cyfreithiau’r Cymry mewn rhai achosion llys. Serch hynny, roedden nhw’n dal yn cael eu defnyddio’n eang tan 1536 a’r Deddfau Uno.
Yn ogystal â dod a chopi o gyfreithiau Hywel Dda, mae’r Llyfrgell hefyd yn gyfrifol am noddi Cadair yr Eisteddfod eleni. Cynlluniwyd y gadair hardd gan Arnold James, cyn athro Celf, Dylunio a Thechnoleg o Lanelli. Mae’n cynnwys darnau o bren o ddodrefn gwreiddiol Ystafell Ddarllen y Gogledd. Mae’r ystafell yma wrthi’n cael ei ail-gynllunio ar hyn o’r bryd gan roi golwg newydd i’r ystafell ysblennydd sy’n dyddio o gyfnod y Rhyfel Mawr.
Dolenni
Gweld Cyfreithiau Hywel Dda arlein
Gwybodaeth Bellach
Medi Jones-Jackson, Swyddfa’r Wasg, LlGC: 01970 632 534 medi.jones-jackson@llgc.org.uk