Thu, 28 May 09 16:02:00
O 1 Mehefin 2009 mi fydd y Llyfrgell Genedlaethol yn codi tâl ar ddefnyddwyr ac ymwelwyr am ddefnyddio maes parcio'r Llyfrgell. Codir ffi o £1 am 4 awr neu £2 am 8 awr neu ddiwrnod llawn (hyd at 18:15 o’r gloch) ar geir neu feiciau modur. Mae’r ffioedd yma’n cynnwys parcio naill ai mewn blychau gwyn neu goch. Eithrir gyrwyr sy’n arddangos bathodyn anabl cywir rhag talu.
Gellir defnyddio derbynebau parcio ar gyfer talu am un pryniant yn y Llyfrgell, yn y Cafe, Siop neu wasanaethau ffotocopïo ar yr un dydd yn unig. Ni ad-delir arian yn erbyn derbynebau parcio.
Penderfynwyd gwneud hyn oherwydd, er i'r Llyfrgell ehangu ei llefydd parcio dros y blynyddoedd, mae mannau parcio'n parhau i fod yn brin iawn a'r maes parcio'n llenwi'n gynnar iawn yn y bore. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod pobl nad sy'n defnyddio cyfleusterau'r Llyfrgell nac yn staff, yn parcio eu ceir yno.
Yn ôl Arwel Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus y Llyfrgell, ‘Bwriad codi tâl yw rheoli'r maes parcio'n fwy effeithiol gan ryddhau llefydd parcio i ddefnyddwyr y Llyfrgell. Bydd y llefydd hynny yn y rhan mwyaf cyfleus o'r maes parcio ar gyfer yr adeilad a byddent wedi eu dynodi â llinellau cochion. Gall y rhai sy'n prynu tocyn parcio elwa ar elfen o ad-daliad ar rai pwrcasiadau yn y Llyfrgell fel sy'n gyffredin i amryw sefydliad arall.’
Dolenni
Gwybodaeth bellach
Swyddfa'r Wasg
Medi Jones-Jackson 01970 632 534