Mon, 01 Jun 09 09:47:00
 phobl Cymru ar drothwy Etholiad ar gyfer Senedd Ewrop ar 4 Mehefin, mae Cymru hefyd yn chwarae ei rhan yn llawn fel gwlad Ewropeaidd ym maes celf yn ogystal â gwleidyddiaeth.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o 16 llyfrgell ar draws Ewrop sy’n cyfrannu deunydd digidol ar gyfer prosiect newydd EuropeanaTravel sydd ei hun yn rhan o brosiect llyfrgell ddigidol Europeana. Disgwylir y bydd dros filiwn o eitemau yn amrywio o fapiau, llawysgrifau, ffotograffau, llyfrau a ffilmiau yn cael eu cynnwys ar yr EuropeanaTravel ar themâu teithiau, llwybrau masnach, teithio a theithiau ymchwil.
Bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn digido ei chasgliad hyfryd o 500 o gyfrolau o ddarluniau sy’n cynnwys rhychwant eang o ddeunydd - o sgetsus amatur gan deithwyr cefnog i waith maes llyfrau darlunio artistiaid proffesiynol. Maent yn cwmpasu amrywiaeth o genres gan gynnwys pen ac inc, gouache, wash a dyfrlliw. Mae’r rhan fwyaf o gasgliadau’r Llyfrgell yn dyddio o’r 19eg ganrif, er bod rhai enghreifftiau gwych o’r 18fed ganrif. Ymysg yr uchafbwyntiau mae darluniau gan Moses Griffith, Alexander Cozens a Sir Richard Colt Hoare.
Llenwir y cyfrolau gan fwyaf gan dirluniau o Gymru, gyda nifer ohonynt yn dilyn llwybr topograffegol, ond ceir hefyd luniau o Brydain, Ewrop ac Asia. Ceir sawl enghraifft o luniau o gestyll, tai mawrion, adfeilion ac eglwysi sy’n rhoi tystiolaeth dda o sut oedd ardal yn edrych ar gyfnod arbennig.
Mae’r llyfrgelloedd eraill yn yr Almaen, Estonia, Yr Iseldiroedd, Ffindir, Iwerddon, y Weriniaeth Tsiec, Hwngari, Lloegr, Slofacia, Latfia, Gwlad Pwyl, Awstria a Sweden yn cyfrannu i’r prosiect gan gyflwyno cynnwys o’u casgliadau gwerthfawr hwy.
Wrth groesawu’r lansiad, dywedodd Dr Jill Cousins, cyfarwyddwr swyddfa Europeana yn y Llyfrgell Frenhinol yn yr Iseldiroedd, ‘Bydd yr adnodd yma o werth i athrawon a myfyrwyr, i deithwyr ac i dwristiaid. Mae llawer o bobl erbyn heddiw yn teithio milltiroedd lawer yn eu bywyd tra i’n cyndeidiau prin adael eu pentrefi genedigol. Bydd EuropeanaTravel yn galluogi ni i ddogfennu sut ddigwyddodd y newid mawr yma.’
Meddai Gwyn Jenkins, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Casgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol, ‘Dyma’r tro cyntaf i’r Llyfrgell Genedlaethol dderbyn arian Ewropeaidd ar gyfer prosiect ddigido a bydd yn gyfle gwych i ni ddangos peth o’n casgliadau ar lwyfan Ewropeaidd.’
Dolenni
Gwybodaeth bellach
Swyddfa'r Wasg
Medi Jones-Jackson 01970 632 534