Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Dawns fertigol ar flaen adeilad y Llyfrgell dydd Gwener

Tue, 16 Jun 09 17:08:00

Dawns FertigolBydd Kate Lawrence, perfformwraig dawnsio fertigol yn perfformio Descent of the Angel, Dydd Gwener 19 Mehefin am 13:30 pm o do Llyfrgell Genedlaethol Cymru.


 


Mae Kate yn ddarlithwraig mewn astudiaethau dawns ym Mhrifysgol Surrey yn Gilford. Mae wedi treulio amser yn astudio a dysgu dawnsio fertigol yn y brifysgol ers 5 mlynedd. Mae dawnsio ferigol yn cyfuno dawns â offer a thechnegau dringo creigiau. Mae Kate yn creu ei dawnsfeydd trwy droi waliau adeiliadau yn ‘lawr dawnsio’ ac yn defnyddio offer er mwyn hedfan oddi ar adeiladau.


 


Yn ôl Kate, ‘ Mae hi yn fraint mawr cael fy nghwahodd i berfformio ar flaen adeilad mor eiconiadd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru’.


 


Mae’r perfformiad yn rhan o gynhadledd ‘Living Landscape’ sydd yn cymryd lle ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ôl cydlynydd y gynhadledd, Dr Heike Roms,


 


‘Mewn ffordd ni wnaethom ni ddewis y Llyfrgell i lwyfanu y perfformiad, ond dewis y perfformiwr fel dull o ymwneud ag adeilad y Llyfrgell. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn adeilad penserniol cryf ac yn adeilad pwysig i dirwedd Aberystwyth. Gan taw themau y gynhadledd yw ‘LIVING LANDSCAPES’ – perfformiad, tirwedd a'r amgylchedd – roedd gennym ddiddordeb mewn llwyfanu perfformiad fyddai yn gadael i ni ymrwymo â phenserniaeth trawiadol y Llyfrgell a fyddai hefyd yn weladwy o’r dref ei hun. Mae’r perfformiad yn barhad o’n perthynas gyda’r Llyfrgell, sydd yn bwysig iawn i ni, ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r Llyfrgell Genedlaethol am y cyfle.'


 


Dolenni


Perfformiad y ddawns fertigol ar dudalen YouTube y Llyfrgell.


 


Gwybodaeth bellach


Medi Jones-Jackson


Swyddfa’r Wasg


01970 632 534


medi.jones-jackson@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012