Thu, 06 Aug 09 10:49:00
Mae’r Llyfrgellydd Cenedlaethol, Andrew Green, ymysg y Cymry â anrhydeddwyd gan Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw. Cafodd Andrew Green ei dderbyn i wisg wen yr Orsedd, yr anrhydedd uchaf, am ei gyfraniad at y genedl, ei diwylliant a'i hiaith. Dewis ei enw barddol yw Gwallter Bach, teyrnged i'r cerddor blues Little Walter (Marion Walter Jacobs, 1 Mai 1930 – 15 Chwefror 1968).
Daeth Andrew Green yn brif weithredwr y Llyfrgell ym 1996 ac roedd yn brif lyfrgellydd Prifysgol Abertawe yn flaenorol. Wedi ei eni yn Swydd Lincoln a’i fagu yn Hoylandswaine, Swydd Efrog, fe aeth Andrew ymlaen i ddysgu Cymraeg ac mae bellach yn siaradwr Cymraeg rhugl.
Fe fydd yr Eisteddfod sy'n un o ddigwyddiadau diwylliannol mwyaf Ewrop, yn cael ei chynnal eleni yn y Bala tan 8 Awst. Ymysg y rhai sydd wedi eu hanrhydeddu yn flaenorol gan yr Orsedd mae Archesgob Caergaint Dr Rowan Williams a'r actorion Matthew Rhys ac Ioan Gruffudd. Cafodd Tanni Grey-Thompson a seren y West End Connie Fisher eu hanrhydeddu ar ddechrau'r wythnos.
Yn ôl Andrew Green, ‘Mae hon yn anrhydedd fawr, ac yn annisgwyl iawn imi - y fraint fwyaf sy'n bosib i rywun sy'n byw yng Nghymru. Ond yn bennaf mae'n cydnabod y Llyfrgell Genedlaethol, a'r ffordd mae hi wedi tyfu dros y blynyddoedd diweddar, fel adnodd gwerthfawr i Gymru ac i'r byd, fel arloeswr yn ei gwaith, ac fel sefydliad cenedlaethol y gall pawb yn y wlad ymfalchïo ynddo.’
Crëwyd Gorsedd y Beirdd yn yr 19eg Ganrif gan yr ysgolhaig Iolo Morganwg. Arweinydd yr Orsedd yw’r Archdderwydd, sy'n cael ei ethol am gyfnod penodol o dair blynedd ac sy'n gyfrifol am liwio seremonïau’r Orsedd yn ystod wythnos yr eisteddfod.
Ceir mwy o fanylion am Little Walter ar Wikipedia
Fideo
Gallwch weld fideo o'r Llyfrgellydd yn cael ei dderbyn i'r Orsedd yma.
Testun llawn y fideo
Tywyswr: Hybarch Archdderwydd, cyflwynaf Andrew Green, Llyfrgellydd
Cenedlaethol Cymru. Mae’n Sais arbennig o alluog a ddysgodd Gymraeg i’w
llefaru a’i defnyddio yn rhugl nes bod yn ysbrydoliaeth i eraill yn ei faes.
Mewn cyfnod sydd yn gweld llu o gyfnewidiadau chwildroadol a chyffroes
mewn llyfrgelloedd mae yn dda i Gymru gael Cymro mabwysiedig o
argyhoeddiad a hwnnw yn ysgolhaig o’r radd flaenaf wrth y lliw. Bydd yn cael
ei alw yn yr Orsedd yn Gwallter Bach.
Archdderwydd: Croeso Mawr Gwallter Bach, croeso mawr
Swyddfa'r Wasg
Medi Jones-Jackson
01970 632 534